Gwaith Haearn Blaenafon
Hysbysiad Ymwelwyr
Sylwer:
Mae mynedfa ymwelwyr Gwaith Haearn Blaenafon ar Estate Road.
Cawr o'r oes ddiwydiannol yn dal i sefyll yn dalog ar ysgwyddau ei weithwyr
Newidiodd Blaenafon y byd. Roedd cyfoeth o lo, calchfaen a mwyn haearn – tanwydd y Chwyldro Diwydiannol –yn y bryniau hyn ar gyrion Bannau Brycheiniog.
O’r fan hon, byddai Cymru’n hyrddio a bytheirio ac yn ei chwythu ei hun ar y llwyfan byd-eang. Haearn o Gymru roddodd fod i injans, offer a pheiriannau arloesol. Cododd bontydd, llongau a rheilffyrdd. Yn fyr, lluniodd y byd modern.
Yn 1789 aeth Gwaith Haearn Blaenafon ati am y tro cyntaf i harneisio pŵer stêm i chwythu aer i'w ffwrneisi chwyth enfawr. Ganrif yn ddiweddarach, yn y fan hon y trawsnewidiodd Sidney Gilchrist Thomas ddiwydiant dur y byd trwy ddyfeisio ffordd i dynnu ffosfforws o fwyn haearn.
Mae'r ffwrneisi adfeiliedig i'w gweld hyd heddiw gerllaw olion trawiadol y ffowndri, y tŷ cast a'r tŵr cydbwyso dŵr a godai wagenni i'r awyr i uchder o 80 troedfedd.
Roedd Blaenafon yn cael ei redeg gan ddiwydianwyr mawr, didostur yn aml. Ond byddai’r lle wedi bod yn werth dim heb ei weithwyr. Ewch i archwilio’u bythynnod a ddodrefnwyd yn ddilys a ‘siop y gwaith’ sydd wedi’i ail-greu lle’r oedden nhw’n gwario’u cyflogau prin.
Mae eu stori, sy’n cael ei hadrodd trwy gyfrwng dehongliad arloesol, wrth wraidd tirwedd ddiwydiannol sydd mor gwbl unigryw fel ei bod wedi ennill statws Safle Treftadaeth y Byd.
Sut i ymweld
• prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd (neu archebwch ar-lein)*
• gwiriwch ein hamseroedd agor a’n prisiau isod
• edrychwch ar gyngor iechyd a diogelwch diweddaraf Llywodraeth Cymru cyn ymweld.
*ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.
Oriel
Expand image Expand image Expand image Expand imageAmseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
27th Mawrth - 3rd Tachwedd | 10am–5pm |
---|---|
4th Tachwedd - 31st Mawrth | 10am–4pm (Ar gau Llun-Iau) |
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr Noder: yn ystod tywydd garw, efallai y bydd angen inni gau’r heneb ar fyr rybudd am resymau iechyd a diogelwch. Edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol neu ffoniwch eim timau cyn ymweld er mwyn sicrhau bod y safle ar agor ac yn ddiogel i ymweld â hi. Facebook @CadwWales | Twitter @cadwcymru |
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£7.30
|
Teulu* |
£23.40
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£5.10
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£7.00
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein). |
Gwybodaeth i ymwelwyr
Canllaw mynediad
Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.
Maes parcio
Mae parcio mawr sy'n eiddo i'r Cyngor (200 metr) gyda thua 40 o leoedd ar draws prif ffordd brysur.
Mae’r llwybr i’r fynedfa gyferbyn â maes parcio Gwaith Haearn Blaenafon.
Croeso i gŵn
Mae croeso i gŵn ar dennyn ond ni chaniateir cŵn yn y bythynnod. Diolch
Clyw cludadwy
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Toiledau
Mae toiledau ymwelwyr ar y safle hwn.
Arddangosfa
Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.
Siop roddion
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Lluniaeth
Mae lluniaeth ysgafn ar gael.
Llogi Safle
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Wi-Fi
Mae WiFi cyhoeddus Cadw ar gael am ddim ar y safle hwn.
Tywyslyfr
Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Ymweliadau ysgol
Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.
Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!
Cyfarwyddiadau
Cyfeiriad
North St, Blaenavon NP4 9RN
Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01495 792615
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Rhif ffôn 03000 252239
Cod post NP4 9RQ
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50.