Skip to main content
Gwa

Nid dim ond swydd oedd cadw ffwrneisi llosg Blaenafon yn llosgi. Roedd yn fwy fel llafur caled.

Deuddeg awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos. Mewn perygl cyson o dân neu fetel tawdd, mygdarthau gwenwynig a pheiriannau trwm. Heb fod byth yn siŵr a fyddai gostyngiad ym mhris haearn yn golygu y caech eich taflu allan o'ch cartref eich hun.

Nid yr oedolion yn unig oedd yn dioddef. Roedd plant mor ifanc â phump oed yn cael eu gorfodi i weithio. Yn 1842 darganfu arolygwyr y Llywodraeth fod 185 o blant dan 13 oed yn gweithio yn y gweithfeydd haearn a'r mwyngloddiau oddi amgylch.

Roedd chwarter ohonyn nhw’n ferched – nifer yn malu mwyn haearn â llaw ar y bryniau llwm uwchben yr iard. Nododd yr awdur AJ Munby – gyda chymeradwyaeth – y byddai dynion yn mynd i'r afael â'r lympiau mwy o faint: ‘Yna bydd y merched yn eu torri’n ddarnau … gan godi'r morthwyl dros eu pennau â’i dynnu i lawr â sgiliau a nerth dyn'.

Mae ’na lawer o straeon torcalonnus eraill. Roedd Margaret Thomas, 15 oed, yn tasgu o gwmpas yn droednoeth ac yn gwthio tramiau dan ddaear. Roedd Lucretia Jones, wyth mlwydd oed, yn treulio bob dydd yn gweiddi cyfarwyddiadau at y dyn wrth yr olwyn ddŵr.

Ond doedd William Lloyd, rheolwr y ffwrnais, ddim yn un i ddangos gormod o gydymdeimlad. Wedi'r cyfan, roedd e’i hun, yn wyth oed, wedi’i roi i weithio mewn gwaith haearn yn Swydd Stafford.

‘Mae bechgyn y burfa yn gweithio mewn cryn dipyn o wres yn ystod yr haf ac yn cael eu llosgi weithiau, ond nid yn ddrwg iawn,’ meddai. ‘Roeddwn i'n gweithio gryn dipyn yn galetach nag y mae’r bechgyn yn ei wneud fan hyn.'