Santes Dwynwen
Cofiwn Santes Dwynwen fel nawddsant cariadon Cymru, ac mae ei stori yn parhau’n un o chwedlau mwyaf hirhoedlog Cymru ac yn un sy’n cael ei thrysori.
Credir bod Dwynwen yn byw yn y bumed ganrif, ac roedd yn un o ferched niferus Brychan Brycheiniog, brenin yn ne Cymru y mae ei enw bellach yn cael ei anrhydeddu gan y parc cenedlaethol, Bannau Brycheiniog.
Yn ôl y chwedl, syrthiodd Dwynwen mewn cariad dros ei phen a’i chlustiau ag uchelwr ifanc o’r enw Maelon Dafodrill, ac roedd y ddau â’u bryd ar briodi. Fodd bynnag, gwrthwynebai ei thad yr uniad, ac yntau eisoes wedi trefnu priodas wahanol i’w ferch er budd gwleidyddol.
A hithau’n dorcalonnus, gweddïodd Dwynwen am arweiniad a rhyddhad o’i thristwch.
Atebwyd ei gweddïau mewn breuddwyd, gydag angel yn ymddangos ger ei bron ac yn rhoi diod iddi, oedd â’r nod o leddfu ei phoen a’i helpu i anghofio Maelon - ond yn lle hynny, trawsnewidiodd Maelon yn dalpyn o iâ. Yn y foment honno, cafodd Dwynwen dri dymuniad.
Yn llawn tosturi, ei dymuniad cyntaf oedd i Maelon gael ei ddadmer. Ei hail oedd y dylai gwir gariadon bob amser ddod o hyd i hapusrwydd, a’i thrydydd oedd na fyddai hi ei hun byth eto yn syrthio mewn cariad nac yn priodi. Gwireddwyd ei thri dymuniad.
Yna cefnodd Dwynwen ar ei theulu er mwyn osgoi priodas dan orfod a chysegrodd ei bywyd i’w ffydd. Daeth yn lleian, gan ymroi i helpu eraill, yn enwedig y rhai a oedd yn chwilio am gariad, cysur ac arweiniad.
Gan deithio ledled Cymru i sefydlu eglwysi a gweddïo dros y rhai a oedd yn wynebu trafferthion mewn cariad, ymgartrefodd yn y pen draw ar Ynys Llanddwyn, oddi ar arfordir Ynys Môn, lle treuliodd ei bywyd. Mae adfeilion Eglwys Santes Dwynwen yn dal i sefyll yno hyd heddiw fel rhan o’i gwaddol parhaol.
Daeth yr ynys yn hafan i bererinion, gydag ymwelwyr yn teithio o bell ac agos i geisio bendith yn ei ffynnon sanctaidd, y credir ei bod yn cynnig arwyddion o hapusrwydd mewn cariad yn y dyfodol. Dros amser, daeth Dwynwen i gael ei chysylltu’n agos â rhamant a’r gobaith am gariad pur.
Heddiw, mae’n cael ei dathlu bob blwyddyn ar 25 Ionawr, Dydd Santes Dwynwen – fersiwn Cymru ei hun o Ddydd Sant Ffolant.
Mae pobl ledled y wlad yn nodi’r achlysur trwy gyfnewid cardiau, anrhegion a llwyau caru traddodiadol Cymreig fel arwydd o’u cariad.
Mae stori Santes Dwynwen yn un o gariad, colled a thosturi, ac mae’n ein hatgoffa y gall caredigrwydd a gobaith barhau hyd yn oed mewn torcalon. O Ynys Llanddwyn, mae ei gwaddol yn parhau i gyffwrdd calonnau ym mhob cwr o Gymru.