Skip to main content

Beth? Taith o amgylch Safle Treftadaeth y Byd — yng ngogledd Cymru

Ble? Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn

Safleoedd Cadw i’w gweld: Castell Conwy, Castell Harlech, Castell Caernarfon a Chastell Biwmares

Y lle gorau i’w rannu ar Instagram: gyda dewis o bedwar castell o safon fyd-eang, mae cannoedd o leoliadau i chi gael y llun perffaith ar y daith hon. I ddechrau, beth am chwilio am grisiau cudd Castell Caernarfon neu eistedd ar bont godi Castell Biwmares — cyfle gwych i feddwl am gapsiwn clyfar i gyd-fynd â’r lluniau.

Ewch ar daith yn ôl mewn amser i ddarganfod Castell Conwy a Muriau'r Dref, Castell Caernarfon a Muriau'r Dref, Castell Biwmares a Chastell Harlech.

Gyda’i gilydd mae’r pedwar campwaith hwn o’r oesoedd canol yn ffurfio Safle Treftadaeth y Byd UNESCO — sy’n golygu eu bod yn cael eu cydnabod ar lefel ryngwladol, yn cael eu cadw’n wych ac yn llawn haeddu ymweliad â nhw.

Dechreuwch ar eich siwrnai yn nhref marchnad yr Wyddgrug a gadewch i Ffordd Gogledd Cymru  eich arwain chi ar lwybr gyrru pedwar diwrnod ar hyd arfordir gogledd Cymru ac i Ynys Môn.

Mae’r llwybr hwn yn mynd drwy drefi glan môr traddodiadol Bae Colwyn a Llandudno, ac mae digon o gyfle i chi fwynhau anturiaethau di-ri ar y ffordd. Ewch ar y wifren wib gyflymaf yn y byd yn Zip World Velocity neu beth am wylio’r haul yn machlud dros Fae Llandudno wrth ymlacio yn nhŷ bwyta Dylan’s, sy’n enwog am ei saws barbeciw arobryn.

Mae pont grog o’r 18fed ganrif dros y Fenai sy’n cysylltu Ynys Môn a’r tir mawr, ac yma rydych o fewn tiriogaeth y Cestyll, lle gallwch alw draw i weld tri allan o’r pedwar heneb fyd-enwog a’u trefi lleol hyfryd: Conwy, Caernarfon a Biwmares.

Mae tref gaerog hanesyddol Conwy yn berffaith ar gyfer anturiaethau canoloesol, gyda Chastell Conwy, muriau enwog y dref a’r tŷ tref Tuduraidd, Plas Mawr, i gyd yn y canol. Beth am wneud yn fawr o’ch ymweliad drwy aros yng ngwesty gwely a brecwast unigryw Gwynfryn B&B, sydd o fewn Capel Methodistaidd sydd wedi cael ei drawsnewid.

Yna, yng Nghaernarfon, gallwch ymlacio ger yr harbwr hyfryd a mwynhau mynd o amgylch y Castell cadarn.  Beth am ymweld â Chaer Rufeinig Segontiwm sydd ychydig allan o’r dref, ar gyrion Caernarfon. Arferai milwyr cynorthwyol Rhufeinig ei defnyddio fel canolfan i amddiffyn yr arfordir rhag môr ladron ac ysbeilwyr o Iwerddon.

Castell Biwmares yn Ynys Môn yw’r gaer fwyaf perffaith yn dechnegol (ond eto nid yw wedi’i chwblhau) sy’n dyddio o’r oesoedd canol ym Mhrydain ac mae’n fwrlwm o fywyd gwyllt yn lleol. Ewch ar fordaith gyda’r Seacoast Safaris i Ynys Seiriol — noddfa i adar a safle nythu ar gyfer adar y môr sy’n magu. Arferai’r ynys fod yn gartref i’r sant o’r chweched ganrif, Sant Seiriol, ac mae ei fynachlog i’w weld o hyd.

Ymunwch â Ffordd Arfordirol Cymru er mwyn nodi diwedd eich taith o amgylch Safle Treftadaeth y Byd, a mynd i Gastell Harlech, cyn mynd am adref gydag atgofion bythgofiadwy. Tarwch olwg ar Y Daith i’r Entrychion i gael rhagor o syniadau am bethau i’w gwneud a’u gweld yn Harlech.