Skip to main content

Beth? Diwrnod llawn gweithgareddau lle cewch fwynhau gweld mynyddoedd, daeargelloedd ac ogofâu

Ble? Llandeilo

Safle Cadw i’w weld: Castell Carreg Cennen

Y lle gorau i’w rannu ar Instagram: y twnnel o dan y Castell. Wrth i belydrau'r haul lifo drwy’r bylchau yn y gwaith brics, bydd fflachiadau o oleuni i’w gweld yn y twnnel drwy gydol y dydd — dyma’r lle delfrydol i chi dynnu llun llawn dirgelwch ar gyfer eich grid.

Does dim llawer o gestyll yng Nghymru sydd mewn lleoliad mwy ysblennydd na Chastell Carreg Cennen. Mae ôl y tywydd ar yr adfail hwn sy’n goron ar graig galch, ac sy’n edrych dros y Mynydd Du pell yng nghornel orllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Ar ôl mynd ar daith gerdded fer ond serth at y cadarnle o faes parcio Carreg Cennen, mwynhewch y golygfeydd ysblennydd ar draws erwau o gefn gwlad sydd heb eu cyffwrdd. Os ydych chi’n teimlo’n ddewr, chwiliwch am dwnnel dirgel y safle i ddod o hyd i ogof greigiog — a oedd yn arfer cael ei defnyddio fel ystafell storio a daeargell gyfrinachol!

Ar ôl i chi dynnu’r llun perffaith ar gyfer Instagram a darganfod holl hanes dramatig y safle, ewch am dro ar hyd y llwybr sy’n arwain at y dyffryn coediog i fynd ar daith gerdded gylch sy’n para dwy awr.

Defnyddiwch arwyddion coch y castell fel canllaw, croesi afon Cennen a mynd tuag at frig y Mynydd Du er mwyn cael mwynhau hyd yn oed mwy o olygfeydd godidog.

Ar ôl cerdded drwy rostir tawel ac agored, bydd y llwybr yn eich tywys yn ôl i’r man cychwyn, sef pont godi Carreg Cennen.

Yma, arhoswch am ddiod neu damaid i'w fwyta yng nghaffi'r Castell, cyn neidio i'r car a mynd am Fwyngloddiau Aur Dolaucothi. Yma, gallwch chwilio am aur yn yr unig fwynglawdd aur Rhufeinig sydd ar ôl yn y DU. Bydd cyfle i chi fynd ar daith dywys o dan y ddaear a chael hanes dwy fil o flynyddoedd o fwyngloddio aur yng Nghymru — dewis da i chi ar ôl eich taith gerdded os yw’r plant gyda chi hefyd.