Taith y Rhedwyr
Beth? Taith redeg 5k o Gastell y Fflint at Bwynt y Fflint, ac yn ôl.
Ble? Y Fflint, Sir y Fflint
Safle Cadw i’w weld: Castell y Fflint
Y lle gorau i’w rannu ar Instagram: y tŵr mawr neu’r ‘dwnsiwn’ yng nghornel de-ddwyreiniol y safle. Safwch o flaen y strwythur anghyffredin hwn i gael llun o filltiroedd o arfordir ac awyr uwchben.
Dechreuwyd codi Castell y Fflint yn 1299, ac mae’n un o'r rhai cyntaf i gael ei adeiladu gan Edward 1af. Gyda golygfeydd trawiadol dros aber yr afon Ddyfrdwy, mae'r castell unig hwn yn aml yn cael ei anghofio gan bobl sy'n mynd am y cestyll mwy gorllewinol. Mae’n enwog am ymddangos yn nrama hanesyddol epig Shakespeare, Richard II.
Cymerwch amser i archwilio'r adfeilion, sy'n sefyll yn amlwg ar y tirwedd arfordirol, cyn dechrau rhedeg. O'r Castell, dilynwch lwybr i’r goedwig a mwynhewch gip ar yr aber rhwng y coed. O’r fan hon, dilynwch y llwybr troellog i ddoc y Fflint.
Wrth i chi redeg, anadlwch awyr iach y môr a chofiwch fod y cei distaw a phrydferth hwn yn arfer bod y lle prysuraf yn y Fflint — a hefyd y mwyaf budr a llygredig oherwydd y cemegau yr oedd y diwydiannau trwm yn eu defnyddio yma yn yr 1800au.
O'r fan yma, trowch yn ôl am lwybr yr arfordir drwy ddilyn darn byr o ffordd a’r afon ddolennog o gwmpas y gilfach at Bwynt y Fflint.
Yno, fe welwch oleufa sy'n cael ei chynnau ar achlysuron arbennig, yn ogystal â golygfeydd godidog i fyny’r aber i gyfeiriad Maes Glas ac i lawr yr afon tua Phont Sir y Fflint.
Wrth ddychwelyd i'r Castell, cofiwch gael llun balch ohonoch eich hun fel rhedwr, a gwobrwywch eich hun drwy gael tamaid bach neu fawr i’w fwyta ym Mill Tavern gerllaw.