Skip to main content

Beth? Diwrnod i fwynhau chwa o awyr iach y môr yn Oxwich, gan ddechrau yn y castell a dod i ben yn y bae

Ble? Gŵyr, Abertawe

Safle Cadw i’w weld: Castell Oxwich

Y lle gorau i’w rannu ar Instagram: olion colomendy anferth Castell Oxwich. Mae’r colomendy yn unigryw i Oxwich, ac mae’n cynnig cefndir tebyg i fwrdd draffts i unrhyw un sy’n dymuno creu argraff ar Instagram.

Mae’r daith hon yn dechrau drwy ymweld â Chastell Oxwich — olion urddasol o oes y Tuduriaid sy’n sefyll ar ben bryn ar Benrhyn Gŵyr. Mae’r safle, sydd wedi adfeilio’n rhannol, yn dyddio’n ôl i'r 16eg ganrif. Arferai fod yn blasty caregog, cartref i deulu bonheddig Syr Richard Mansel, Uchel Siryf Morgannwg, a’i weision.

Ar ôl mwynhau golygfeydd o’r hen blasty a’r coetir cyfagos, dilynwch sŵn y môr a mynd am Fae Oxwich, un o draethau harddaf Penrhyn Gŵyr.

Os yw’r haul allan, mae’n werth galw draw yn Oxwich Watersports yn y Beach Hut ym Mae Oxwich. Yma, cewch gyfle i roi cynnig ar amryw o weithgareddau anturus — o fordhwylio i geufadu a thonfyrddio i hwylio.

Naill ai paciwch bicnic ar gyfer y daith neu beth am fwynhau tamaid blasus yn y Beach House Restaurant — tŷ bwyta lleol mewn lleoliad arbennig gyda golygfeydd godidog o’r arfordir a bwyd môr blasus.

Os hoffech gael newid bach neu aros dros nos, bydd tro byr mewn car o’r traeth yn eich arwain chi at westy arobryn, King Arthur Hotel. Yma cewch fwynhau noson dda o gwsg a bwyd da.