Y Daith Feics Fictoraidd
Beth? Taith feics 8km ar hyd llwybr Taith Taf i gastell hud a lledrith Cymru
Ble? Tongwynlais, Caerdydd
Safle Cadw i’w weld: Castell Coch
Y lle gorau i’w rannu ar Instagram: gellir dadlau mai dyma’r lle gorau oll am luniau. Cewch ddigon o gyfle i dynnu lluniau gwych yng Nghastell Coch. Eisteddwch yn un o ffenestri bae godidog y Parlwr ac edrych i lawr tuag at Dongwynlais, er mwyn cael llun fel petai’n syth allan o stori hud a lledrith.
Dilynwch ôl traed teulu’r Bute o oes Fictoria a dechrau eich taith drwy ymweld â’u cartref gwyliau yng Nghastell Coch, o dir eu cartref blaenorol yng Nghastell Caerdydd — Parc Bute.
Paciwch bicnic i chi'ch hun, llogi beic o Pedal Power gerllaw neu ewch i You Well am fwy o wybodaeth am logi beiciau’n lleol a dechreuwch feicio ar hyd Llwybr Taf. Mae’r llwybr diogel 8km yn addas i deuluoedd ac i rai sydd ddim yn arfer beicio. Bydd yn mynd â chi ar hyd glan gorllewinol Afon Taf nes byddwch chi’n cyrraedd yr heneb restredig Gradd I o oes Fictoria yn Nhongwynlais. Cofiwch gadw llygad allan am Stadiwm Principality, pwmp dŵr hanesyddol Melingriffith a phentref hudolus Llandaf ar hyd y ffordd!
Gyda’i dyrrau conig a’i dyredau main yn ymddangos yng nghanol y llethr coediog, fe welwch chi’r anhygoel Castell Coch yn dod i’r golwg drwy’r coed — gan greu delwedd ramantus o'r Oesoedd Canol, yn unol â dyluniad y pensaer o Oes Fictoria, William Burges.
Cafodd adfeilion o’r oesoedd canol eu datblygu’n gartref gwyliau moethus Fictoraidd, ac mae tu allan yr adeilad yn edrych fel rhywbeth allan o stori hud a lledrith. Mae’r tu mewn yr un mor hudolus hefyd. O’r addurniadau anhygoel ar y nenfwd i’r dodrefn moethus, y llefydd tân anferth a hyd yn oed y golygfeydd o Chwedlau Aesop sydd wedi cael eu paentio’n gywrain ar y waliau, mae’r castell unigryw hwn yn werth ei weld. Bydd digon o gyfle i chi gael lluniau trawiadol i'w rhoi ar Instagram fan hyn!
Ewch draw i ystafelloedd te hyfryd y safle i goroni’r prynhawn. Mae dewis eang o ddanteithion blasus i'w cael yma — ac mae popeth yn dod gan gyflenwyr arbennig o Gymru. Gallwch hyd yn oed gael paned o goffi arbennig Castell Coch!