Castell Coch

Hysbysiad Ymwelwyr
Dydd Gŵyl Dewi - Dydd Sadwrn 1 Mawrth
Archebwch docynnau ymlaen llaw i gael mynediad am ddim
I ddathlu ein nawddsant, rydym yn cynnig mynediad am ddim ar Ddydd Gŵyl Dewi - dydd Sadwrn 1 Mawrth.
Oherwydd y nifer cyfyngedig o ymwelwyr y gallwn eu derbyn yn ddiogel yng Nghastell Coch, rhaid archebu pob tocyn am ddim ymlaen llaw; yn anffodus, ni fydd ein timau'n gallu derbyn unrhyw ymwelwyr nad oes ganddynt docyn.
Mae’n bosibl y byddwch yn sylwi’n fuan ar sgaffaldiau’n ymddangos ar Dŵr y Ffynnon ein castell tylwyth teg yn y coed, er mwyn galluogi gwaith i ddiogelu toeau a simneiau rhag y tywydd, yn ogystal â gwaith ail-bwyntio helaeth ar waliau cerrig.
Dilynwch ein gwaith i adfer ysblander bythol Castell Coch ar ein llinell amser.
Castell tylwyth teg - tegan i’r cefnog a’r pwerus
Beth sy’n digwydd pan fydd noddwr o gyfoeth diderfyn yn cwrdd â phensaer â dychymyg di-ben-draw? Dyma eich ateb.
Cwyd Castell Coch o goedwigoedd ffawydd hynafol Fforest Fawr fel gweledigaeth o stori dylwyth teg. Ond eto i gyd, dim ond awgrymu’r ysblander y tu mewn y mae’r tyrau mawrion hyn gyda’u toeau conigol unigryw.
A thrydydd Ardalydd Bute wedi rhoi tragwyddol heol i’w ddychymyg, ni ymatalodd y pensaer William Burges o gwbl. Mae’r tu mewn tra addurnedig a dodrefn drudfawr Castell Coch yn ei wneud yn gampwaith disglair o’r oes Fictoraidd Uchel.
Ond nid ffoli egsotig mohono. O dan yr addurniadau ffug-ganoloesol, gallwch olrhain castell trawiadol o’r 13eg ganrif o hyd, a ddefnyddid ar un adeg fel llety hela gan un o Arglwyddi didostur y Mers, Gilbert de Clare.
Mae Castell Coch yn degan i’r cefnog a’r pwerus ers dros 700 mlynedd. Wedi gwario arian mawr arno, ni threuliodd Gilbert de Clare nac Ardalydd Bute lawer o amser yma.
Serch hynny, mae’n weledigaeth wych o fyd canoloesol dychmygus – a’r cyhoedd yn ei ddewis yn rheolaidd yn hoff adeilad iddynt yng Nghymru.
Oriel
Expand image













Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
1st Mawrth - 30th Mehefin | 9.30am–5pm |
---|---|
1st Gorffennaf - 31st Awst | 9.30am–6pm |
1st Medi - 31st Hydref | 9.30am–5pm |
1st Tachwedd - 29th Chwefror | 10am–4pm |
Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr Bydd Castell Coch ynghau rhwng 6-31 Ionawr 2025 – er mwyn inni gynnal ein gwaith glanhau dwfn blynyddol. |
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£9.50
|
Teulu* |
£30.40
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£6.70
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£8.80
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein).
|
Gwybodaeth i ymwelwyr
Canllaw mynediad
Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.
Newid cewynnau
Toiled i ddau ryw â chyfleusterau ar y llawr 1af.
Maes parcio
Mae maes parcio'r castell yn rhad ac am ddim ac ar agor yn ystod oriau agor y safle.
Mae yna hefyd dri bae parcio pwrpasol i'r anabl ym mhen uchaf y maes parcio ar yr ochr dde.
Nid yw’r rac beiciau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.
Clyw cludadwy
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Toiledau
Un toiled i'r ddau ryw ar y llawr gwaelod, 25 metr o'r swyddfa docynnau.
Un toiled i ferched ar lawr gwaelod Tŵr y Ffynnon.
Toiled i ddau ryw â chyfleusterau ar y llawr 1af.
Trwydded seremoni sifil
Archebion priodas Castell Coch
Ar hyn o bryd ni allwn dderbyn unrhyw archebion priodas yng Nghastell Coch oherwydd bod gwaith cadwraeth hanfodol yn cael ei wneud yn y castell.
Gwiriwch ein lleoliadau seremoni sifil eraill sydd ar gael i’w llogi
Arddangosfa
Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.
Siop roddion
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Lluniaeth
Caffi ar agor
Mae ystafell de ein castell ar agor saith diwrnod yr wythnos ac ar agor i ymwelwyr y castell yn ystod penwythnosau yn unig, gwyliau ysgol a gwyliau banc, oherwydd y cyfyngiadau o ran niferoedd o fewn yr heneb. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'n tîm:CastellCoch@llyw.cymru
Ydych chi’n ymweld â'r caffi yn gyson? Cofrestrwch i gael tocyn coffi am ddim.
Taith sain
Mae taith glywedol ar gael sy’n manylu ar hanes y safle.
Llogi Safle
Wi-Fi
Mae WiFi cyhoeddus Cadw ar gael am ddim ar y safle hwn.
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Ymweliadau ysgol
Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.
Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!
Cyfarwyddiadau
Cyfeiriad
Caerdydd CF15 7JS
Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 02920 810101
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Rhif ffôn 03000 252239
E-bost CastellCoch@llyw.cymru
Cod post CF15 7JS
what3words: ///teimla.cochion.gorchuddio
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50.