Dros amser, mae dŵr wedi dechrau treiddio trwy’r waliau ac i lawr i’r simneiau. Yn ystod arolygon o'r castell, sylweddolom fod y dŵr hwn wedi dechrau niweidio rhywfaint o'r addurniadau cywrain y tu mewn.
Er mwyn gwarchod y castell a sicrhau ei fod yn ddiogel i ni ei fwynhau, rydym wedi dechrau prosiect cadwraeth ar raddfa fawr i atal rhagor o ddifrod rhag digwydd ac i drwsio'r rhannau o'r castell yr effeithiwyd arnynt.
Dilynwch ein gwaith i adfer ysblander bythol Castell Coch ar ein llinell amser.
Methu dod i ymweld? Ewch draw i’n tudalen Ymweliadau Rhithiol er mwyn ymweld â Chartrefi Hanesyddol
Gorffennaf 2024
Mawrth 2024
2019
Darganfyddwch sut y gwnaethom ddatgymalu ac ailadeiladu simneiau eiconig y castell ar ddechrau'r prosiect yn 2019.