Skip to main content

Castell Coch — Canllaw Mynediad

Croeso i’n canllawiau hygyrchedd sydd wedi’i dylunio i’ch helpu i gynllunio eich diwrnod allan a darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, anfonwch e-bost atom neu ffoniwch ein tîm a fydd yn hapus i helpu:

Ebost: CastellCoch@llyw.cymru    Ffôn: 03000 252239

Ymweld â Chastell Coch

Trafnidiaeth gyhoeddus i'r safle – mae Castell Coch ar ben llwybr serth, ac i fyny ffordd serth o'r gorsafoedd bws/trenau. Mae’r safle bws agosaf tua 0.6 milltir i fyny bryn serth. Mae'r orsaf agosaf tua 1.5 milltir i ffwrdd: Golwg Google Maps

Mae gan Gastell Coch le parcio am ddim i ymwelwyr â'r castell. Mae'r rhan fwyaf o'r parcio o flaen y castell ar lethr gymedrol hyd at y fynedfa sy'n anwastad mewn mannau ac sydd â dwy res o risiau (un chwe gris a'r llall tua 12 o risiau). Mae maes parcio uchaf ar yr un lefel â'r castell hefyd gyda 3 man parcio hygyrch. Mae'n daith gerdded/gwthio fflat fer i'r bont godi. Gyda rhybudd ymlaen llaw gall cerbydau ollwng teithwyr wrth y bont godi, ffoniwch 02920 810101. 

Mae'r unig fynedfa i'r castell ar hyd pont godi bren serth sydd â slatiau pren. Mae'n bosib y gall defnyddwyr cadeiriau olwyn esgyn y graddiant ar y bont godi, ond mae hyn yn ddibynnol ar y math o gadair olwyn ac amgylchiadau unigol. Am fwy o wybodaeth am y bont godi ffoniwch 02920 810101.

Gallwch brynu tocynnau o'r cwt derbyniadau wrth gyrraedd y castell (ar ôl y bont godi), sy'n anwastad mewn mannau gydag arwyneb coblau carreg. Mae mynediad i’r siop anrhegion o’r iard drwy 6 gris sy’n mynd ar i lawr gyda chanllaw ar un ochr. Mae cownter isel yn y siop.

Toiledau: mae dau doiled ar y llawr gwaelod ac mae mynediad drwy ramp. Mae'r toiledau’n gul ac mae ganddyn nhw fynedfa gul. Mae cyfleusterau newid babanod ar y safle sydd i fyny rhes o 20 o risiau (y rhan gulaf yw 60cm).

Toiled Tŵr Ffynnon Llawr Gwaelod:

Drws - 72cm o led, 183cm o uchder / Yr ystafell ar ei chulaf - 70cm o led / Ardal toiledau - 68cm o led

Toiled Tŵr Ffynnon Llawr Cyntaf:

Drws - 66cm o led, 198cm o uchder / Ystafell ar ei chulaf - 81cm o led / Ardal toiledau - 81cm o led

Toiled yn yr iard:

Drws - 81cm o led, 204cm o uchder / Ystafell ar ei chulaf (y sinc i'r wal) - 57cm o led

Mae iard goblau ar y llawr gwaelod gyda golygfeydd cyfyngedig o waliau'r castell mewnol yn unig. Mae holl ystafelloedd mewnol y castell yn hygyrch drwy risiau’n unig. Mae llawer o risiau ar draws y lloriau yng Nghastell Coch a mynediad cadair olwyn ar gael i ardal yr iard yn unig (os gellir dringo’r bont i'r cwrt). Mae'r grisiau'n serth mewn mannau ac mae drysau cul ar hyd y safle.

Mae'r castell cyfan yn cynnwys llenfur crwn, a 3 thŵr o risiau troellog. Fodd bynnag, gellir gweld tair o'r ystafelloedd wedi'u haddurno'n wreiddiol ar y llawr cyntaf ar ôl un rhes syth o risiau. Y tŵr talaf yw'r gorthwr ac os mai dim ond un tŵr rydych chi’n gallu ei weld, dyma'r mwyaf gwerth chweil.

Mae cyfleoedd eistedd rheolaidd o gwmpas y safle, gyda rhywbeth ym mron pob ystafell yn ogystal â'r iard.

Caniateir cadair wthio ar y llawr gwaelod yn unig.

Cynllun Llawr — Castell Coch

Taith sain   
Caffi
Diffibriliwr
Powlen i gŵn                                                   
Canllawiau print bras
Gofodau sain gref/goleuadau sy'n fflachio 
Parcio ar gyfer pramiau a sgwteri 
Cyfleusterau picnic 
Dolenni sain cludadwy
Gorsaf ail-lenwi dŵr
  Oes
Oes
Oes
Nac oes
Nac oes
Nac oes
Oes
Nac oes
Oes
Nac oes