Beddrod Siambr Tinkinswood
Arolwg
Gorchest ysblennydd peirianneg gynhanesyddol
Un o’r meini capan mwyaf ym Mhrydain sydd ar ben y beddrod Neolithig hwn (Oes Newydd y Cerrig). A’r maen hwnnw’n mesur 24 troedfedd/7m enfawr wrth 15 troedfedd/4.5m ac yn pwyso rhyw 40 tunnell (cymaint â lori gymalog), sut ar y ddaear y llwyddodd yr adeiladwyr i’w gael i fyny? Yn nhyb yr arbenigwyr, byddai gofyn o leiaf 200 o unigolion i’w godi i’w le. Mae cloddiadau wedi datgelu olion dros 50 o bobl, ynghyd â chrochenwaith wedi torri ac offer fflint.
Mae’r safle hefyd yn gysylltiedig â nifer o chwedlau - dywedir y byddai unrhyw un a dreuliodd y nos yma ar y nosweithiau cyn Calan Mai, Dydd Sant Ioan (23 Mehefin) neu Ddydd Canol Gaeaf yn marw, yn mynd o’u co neu’n troi’n fardd.
Amseroedd agor
Bob dydd 10am–4pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Costau mynediad |
Am ddim
|
Cyfleusterau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Ni chaniateir ysmygu.
Cyfarwyddiadau
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50