Hen Gastell y Bewpyr
Hysbysiad ymwelwyr
Nodwch—ni allwch fynd i’r castell trwy’r fferm gyfagos a’i ffordd breifat, dylech ddilyn y llwybr cyhoeddus o ochr y ffordd a chroesi’r gamfa isel er mwyn croesi’r tir ar lwybr sydd â hawl tramwy cyhoeddus.
Cofiwch y gallai fod da byw yn y caeau, yn enwedig yn ystod tymhorau’r gwanwyn a’r haf.
Cadwch bob anifail anwes ar dennyn, a pheidiwch â mynd at unrhyw anifeiliaid ar eich taith.
Diolch.
Maenor ganoloesol gyda symbolau statws ac ychwanegiadau Tuduraidd afradlon
Er gwaethaf yr enw a’i darddiadau canoloesol, mae Hen Gastell y Bewpyr yn fwy o faenordy na chastell, a dweud y gwir. Fe’i hadeiladwyd mewn dau gam; adeiladwyd y rhan hynaf tua 1300 ac yna cafwyd gwaith adnewyddu mawr yn yr 16eg ganrif gan deulu Bassett a esgorodd ar rai o’r nodweddion mwyaf trawiadol sy’n weddill.
Mae’r rhain yn cynnwys y porthdy tri llawr sydd mewn cyflwr da a’r cyntedd trawiadol, wedi’i addurno â cholofnau a ysbrydolwyd gan bensaernïaeth Hen Roeg ac arnynt arwyddlun herodrol y teulu wedi’i gerfio mewn carreg.
Wedi’u dylunio i arddangos cyfoeth a phwysigrwydd teulu Bassett, mae’r symbolau statws Tuduraidd hyn yn rhoi cipolwg dadlennol ar olwg yr eiddo crand hwn ar ei anterth.
Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
1 Ebrill – 31 Mawrth
|
Bob dydd 10am–4pm Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr |
---|---|
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Costau mynediad |
Am ddim
|
Gwybodaeth i ymwelwyr
Cyfarwyddiadau
Google MapMae maes parcio 250 metr o'r heneb (tua 3 char). Dilynwch yr arwyddion twristiaeth sy’n pwyntio at y castell; nid oes mynediad cyhoeddus i’r castell drwy lôn y fferm.