Castell Llanfleiddan
Olion adfeiliedig castell o’r 14eg ganrif
Fe'i gelwir hefyd yn Gastell St. Quentin's neu Quintin's, wedi’i adeiladu, yn ôl pob tebyg, gan y Sais o uchelwr a chadlywydd milwrol Gilbert de Clare tua dechrau’r 14eg ganrif, olion mwyaf hynod y castell hwn yw ei borthdy enfawr â dau dŵr a darn uchel o furlen yng ngogledd y safle. Yng nghanol yr hyn a arferai fod yn gaer fawr, mae tomen bridd ac olion adeilad o waliau trwchus ar ei phen, ac efallai mai dyna’r cyfan sy’n weddill o orthwr cynharach.
Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
| 1st Ebrill - 31st Mawrth | 10am–4pm |
|---|---|
|
Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr |
|
Gwybodaeth i ymwelwyr
Mynediad i feiciau
Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.
Croeso i gŵn
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Maes parcio
Maes parcio bach wrth fynedfa’r safle.
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 2 – Hawdd
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Iechyd a Diogelwch
Mae mannau parcio wrth fynedfa'r safle i’r heneb hon. Ewch ymlaen yn ofalus gan ei fod yn gorwedd ar ben bancyn bach. Mae'r lonydd yn gul o amgylch yr heneb hon.
Mae'r safle'n cynnwys y gofeb ei hun a phentyrrau cerrig sydd wedi'u lleoli o fewn y tiroedd allanol isaf. Mae'r tiroedd allanol ar lethrau ac yn laswelltog. Gall y rhain fod yn llithrig neu'n fwdlyd mewn tywydd gwael. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn gwisgo esgidiau addas ar gyfer y tymor a chyflwr y safle.
Gofynnwn yn garedig i chi beidio â dringo ar y cerrig ac i fod yn ofalus o gerrig llai sydd wedi cwympo o fewn y safle.
Mae'r heneb wedi'i rhannu'n lefelau isaf ac uchaf. Pan fydd y lefelau uchaf yn hygyrch, defnyddiwch y rheiliau llaw a ddarperir ac arhoswch o fewn y llwybrau cerdded dynodedig.
Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr.
Gall dringo arwain at anaf difrifol.
Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.
Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.
Iechyd a Diogelwch / Health and Safety
Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol, cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.
Camau serth ac anwastad
Cwymp sydyn
Cerrig yn disgyn
Wyneb llithrig neu anwastad
Cyfarwyddiadau
Google Mapwhat3words: ///annheg.diddanwch.ciwt
Faint a fynnid o ymweliadau â gorffennol Cymru
Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol
Mwynhewch holl fanteision bod yn aelod o Cadw
- 10% oddi ar siopau Cadw
- 50% oddi ar bris mynediad i safleoedd Treftadaeth Lloegr a’r Alban Hanesyddol
- Mynediad AM DDIM i English Heritage a Historic Scotland wrth adnewyddu
- Mynediad AM DDIM i eiddo Manx National Heritage
- Pecyn Aelodaeth AM DDIM yn cynnwys sticer car a map lliw llawn