Castell Carreg Cennen
Hysbysiad i Ymwelwyr
Sylwch fod hwn yn safle a reolir ar y cyd ac nad yw Cadw yn ei staffio; nid yw cardiau aelodaeth CSSC, talebau credyd amser a chynlluniau mynediad am ddim eraill nad ydynt yn rhai Cadw yn ddilys yn y safle hwn.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am amseroedd agor, prisiau mynediad a chyfleusterau – edrychwch ar wefan Carreg Cennen: http://www.carregcennencastle.com
Arolwg
Adfail eiconig yn cynnig profiad bythgofiadwy o ramantus
Croeso i’r adfail mwyaf rhamantus yng Nghymru – ac mae hynny’n swyddogol, yn ôl pleidlais darllenwyr cylchgrawn Countryfile.
Ar glamp o glegyr calchfaen bron 300 troedfedd/90m uwchlaw Afon Cennen, amlinell ddramatig Carreg Cennen yw’r brif nodwedd ar y gorwel am filltiroedd ac mae’n meddu ar olygfeydd trawiadol ar draws cefn gwlad Sir Gâr.
Adeiladwyd y castell, yn ôl pob tebyg, gan John Giffard, barwn ffyddlon Edward I, ar ddiwedd y 13eg ganrif, ac o’r olwg gyntaf, mae’n ysgogi ymdeimlad anhygoel o ddrama a phellenigrwydd ynoch.
Yn y lle gwyllt hwn, heb lawer iawn i’ch atgoffa o’r byd modern, bydd y castell fel petai’n darganfyddiad personol ichi. Felly ewch i mewn i’r barbican coeth yng nghysgod ei ddau dŵr. Archwiliwch yr ogof naturiol a’r dramwyfa gromennog wedi’i thorri i wyneb y clogwyn.
Byddwch yn siŵr o gael profiad bythgofiadwy.
Castell Carreg Cennen Pamffledyn Canllaw
Prynwch eich llyfr Cadw ar-lein heddiw.
Aelodau Cadw 10% i ffwrdd!
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£7.00
|
Teulu* |
£23.00
|
Person Anabl a Chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / UCM / Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr |
£5.00
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£6.50
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim Nodiadau os gwelwch yn dda — Ni fydd credydau/ tocynnau amser (nac unrhyw gynllun arall) yn berthnasol i’r safleoedd hyn. |
Cyfleusterau
Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Ni chaniateir ysmygu.
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Mae lluniaeth ysgafn ar gael.
Mae toiledau ymwelwyr ar y safle hwn.
Cyfarwyddiadau
Cod post SA19 6UA
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50
Cysylltu â ni
Rhif ffôn 01558 82229
CyfeiriadTrapp, Llandeilo SA19 6UA