Clasur o gastell
Mae’n ddigon posibl mai’r cadarnle cyntaf ar glegyr calchfaen Carreg Cennen oedd bryngaer o’r Oes Haearn. Mae’n siŵr mai gwaith tywysog o Gymru oedd y castell cynharaf – sef Arglwydd Rhys, llywodraethwr de Cymru.
Ond mae’r adfeilion mawreddog a welwn heddiw yn dwyn holl nodau amgen Arglwydd y Mers diweddarach yn dangos ei bŵer, ei gyfoeth a’i ddylanwad. Yn ôl pob tebyg, John Giffard oedd hwn, a frwydrodd dros Edward I ym mrwydr Pont Irfon ym 1282.
Roedd trechu byddin Cymru a marwolaeth Tywysog Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog brodorol olaf Cymru, yn ergyd derfynol i annibyniaeth Cymru. Carreg Cennen oedd gwobr Giffard gan frenin diolchgar Lloegr.
Mae’n siŵr nad hwn oedd ei brif gartref. Symbol o reolaeth mewn gwirionedd oedd y castell aruthrol a adeiladodd Giffard ar ben cadarnle Cymreig cynharach.
Roedd Carreg Cennen yn rhan o gyfres o gaerau felly a adeiladwyd gan Arglwyddi’r Mers ledled Cymru ar ôl y concwest Edwardaidd. Yn sgil ei ddyluniad ‘castell o fewn castell’ a’i borthdy dau dŵr, mae’n esiampl glasurol – ac un na’i meddalwyd erioed gan ‘foneddigeiddio’ diweddarach.
Gosodwyd garsiwn yng Ngharreg Cennen am y tro olaf gan luoedd Lancastraidd yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnod. Ar ôl i Syr Roger Vaughan ei gipio ym 1462, cymerodd byddin o 500 bedwar mis llafurus i ddatgymalu’r castell â cheibiau a throsolion.
Ewch i Gastell a Thŵr Tretŵr i ddysgu rhagor am Syr Roger a gweld ail-gread byw o ysblander ei neuadd fawr yn ystod ei anterth yn y 1460au.
Daeth Carreg Cennen mor enwog fel adfail rhamantus nes iddo gael ei fraslunio droeon gan Turner. Ond ni ataliodd hyn Iarll Cawdor rhag ei adfer yn helaeth yn rhan o ffasiwn y 19eg ganrif am ailadeiladu dychmygus adeiladau canoloesol adfeiliedig. Hyd heddiw, nid oes neb yn siŵr iawn ymhle mae gwaith llaw’r iarll yn dechrau a dod i ben.