Skip to main content

Arolwg

Dau ryfeddod pensaernïol yn rhychwantu 900 mlynedd o hanes 

Mae’r cliw yn yr enw. Roedd y tŵr cylchol enfawr a adeiladwyd gan Roger Picard II mor drawiadol nes rhoi’r enw Tretŵr i’w gastell yn y pen draw.  

Dros ddwy ganrif, o ryw 1100, trawsffurfiodd teulu Picard o fod yn anturiaethwyr Normanaidd goresgynnol i arglwyddi Cymreig grymus.

Felly nid er gwarchodaeth yn unig y codwyd y clamp hwn o dŵr gyda’i bedwar llawr a waliau cerrig naw troedfedd o drwch. Roedd yn arwydd o esgyn cymdeithasol yn y golwg, yn efelychiad agored o’r cestyll ym Mhenfro ac Ynysgynwraidd.

Byddai’n ddigon hynod ar ei ben ei hun. Ond mae yn Nhretŵr ddau ryfeddod mewn un. Ar draws faes y castell gorwedda llys canoloesol cyfan a ddaeth yn ddihareb am wychder.    

Creadigaeth Syr Roger Vaughan a’i ddisgynyddion oedd hwn. Yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnod, Syr Roger oedd un o’r dynion mwyaf pwerus yng Nghymru – ac roedd Tretŵr yn adlewyrchu ei enwogrwydd.

Byddai’n denu beirdd Cymru ganoloesol a yfai ei winoedd gwych ac a ganai glodydd ei westywr hael. Erbyn hyn, yn sgil gwaith adfer gofalus iawn, gallwch ddychmygu i’r byw fod yn un o westeion mwyaf anrhydeddus Tretŵr. 

Fe welwch fod y neuadd fawr wedi’i gosod yn union fel y buasai efallai am wledd helaeth yn y 1460au. Yn yr ardd a ail-grewyd o’r 15fed ganrif, gallwch grwydro ymhlith rhosynnau gwyn persawrus sy’n symbol o gydymdeimladau Iorcaidd angerddol Syr Roger.

Sut i ymweld
•    prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd (neu archebwch ar-lein)*
•    gwiriwch ein hamseroedd agor a’n prisiau isod
•    cymerwch olwg ar gyngor iechyd a diogelwch Llywodraeth Cymru cyn ymweld.

*ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.

Rhagor o wybodaeth


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–5pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Dydd Mercher–Sul 10am–4pm

Ar gau Dydd Llun–Mawrth

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr

 


Prisiau a Thocynnau

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£8.70
Teulu*
£28.20
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£6.10
Pobl hŷn (Oed 65+)
£8.10

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim.

Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas yn derbyn gostyngiad o 10% oddi ar bris tocyn mynediad unigol wrth ei brynu wrth gyrraedd

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£9.50
Teulu*
£30.40
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£6.70
Pobl hŷn (Oed 65+)
£8.80

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim.

Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein).


Cyfleusterau

Access guide icon Toiledau   icon Newid cewynnau icon Maes parcio icon Lle i gadw beiciau icon Croeso i gŵn icon Trwydded seremoni sifil icon Gardd icon Siop roddion icon Tywyslyfr icon Llety gwyliau icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon Byrddau picnic icon Clyw cludadwy icon Lluniaeth icon Taith sain icon Ymweliadau ysgol icon Llogi Safle icon

Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.

Llys a Chastell Tretŵr — Canllaw Mynediad

Mae toiledau ymwelwyr ar y safle hwn.

Toiledau gyda chyfleusterau i newid babanod.

Mae maes parcio wedi'i raeanu ac mae lleoedd parcio ar ochr y ffordd gyferbyn â'r llys ar gyfer tua 50 o gerbydau.

Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.

Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.

Mae gan y lleoliad drwydded ar gyfer seremonïau sifil.

Priodasau Llys a Chastell Tretŵr 

Llys a Chastell Tretŵr Llety Gwyliau Cadw

Gardd ar y safle.

Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.

Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.

Mae llety gwyliau Cadw ar gael i’w logi yn agos i’r safle hwn.

Bwthyn Llys Tretŵr

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.

Mae meinciau a /neu fyrddau picnic ar gael i ymwelwyr eu defnyddio.

 

Mae dolen sain gludadwy ar gael.

Mae ysgubor Llys a Chastell Tretŵr ar ei newydd wedd bellach yn gartref i’r Bwyty Bach.

Caffis a bwytai Cadw

Mae taith glywedol ar gael sy’n manylu ar hanes y safle.

Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.

Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!

Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
Arwyddion ym mhentref Tretŵr, oddi ar yr A479 5km/3mllr i’r gogledd-orllewin o Grucywel
Rheilffordd
18km/11mllr Y Fenni, Manceinion/Lerpwl-Y Fenni/Caerdydd
Bws
400m/430llath, llwybr rhif X43, Aberhonddu-Y Fenni
Beic
RBC Llwybr Rhif 8 (8km/5mllr)

Cod post NP8 1RD.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50


Cysylltu â ni

Rhif ffôn 03000 252239

E-bost
Tretowercourt@llyw.cymru

Cyfeiriad
Llys a Chastell Tretŵr
Tretŵr, Crug Hywel, NP8 1RF

Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01874 730279
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.