Adleisiau Hanesyddol
Mae Owain Glyndŵr, a gafodd ei ddatgan yn Dywysog Cymru gan ei ddilynwyr, wedi gwrthryfela yn erbyn rheolaeth Lloegr, ac mae Castell Talacharn yn aros yn driw i’r Brenin Harri IV.
Darganfyddwch sut yr ymosodwyd ar gastell a sut y cafodd ei amddiffyn, darganfyddwch sut i drin cleddyf a rhoi cynnig ar wisgo helmed, a datgelwch gyfrinachau meddygaeth wrth i chi gael eich cludo yn ôl i 1403.
A fyddwch chi'n cefnogi brenin Lloegr, neu'n datgan eich cefnogaeth i'r gwrthryfelwr chwedlonol o Gymru?
11.30am – sgwrs am arfau ac arfwisgoedd.
12.30pm – sgwrs am feddygaeth a llawfeddygaeth.
1.30pm – sgwrs am gestyll a’r grefft o gynnal gwarchae.
3pm – arddangosiad ymladd
Bydd y tair sgwrs ar thema yn cynnwys arddangosfeydd o offer a thechnegau, a daw’r diwrnod i ben gydag arddangosiad o sut mae'r arfau a'r arfwisg yn gweithio gydag arddangosiad ymladd.
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
Amseroedd y digwyddiadau
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 01 Awst 2026 |
11:00 - 16:00
|
| Sul 02 Awst 2026 |
11:00 - 16:00
|
| Categori | Price |
|---|---|
| Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
| Oedolyn |
£6.80
|
| Teulu (2 oedolyn a hyd at 3 plentyn) |
£21.80
|
| Teulu (1 oedolyn a hyd at 3 plentyn) |
£15.00
|
| Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
| Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr* |
£4.70
|
| Pobl hŷn (Oed 65+) |
£6.10
|
|
Tocyn £1 Cadw – i'r rhai sydd ar Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill a enwir Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim. *Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein). |
|