Profiad Te Prynhawn y Frenhines Victoria
Dewch i'r castell ar gyfer ein digwyddiad Te Prynhawn Fictoraidd, a phrofi ceinder oes y Frenhines Fictoria.
Bydd portreadau hanesyddol rhyngweithiol, a the unigryw i'w wylio, wrth i'r Frenhines Fictoria gael ei the prynhawn am 3pm - 4pm yn ei phabell (a fydd wedi cael ei haddurno ar thema parlwr Fictoraidd).
Mae ymwelwyr yn cael eu hannog i ymuno â'u picnic neu eu te prynhawn eu hunain, ger y babell. Sylwch nad oes cyfleusterau i gynnig bwyd na diod ar y safle - bydd angen i ymwelwyr ddod â’u lluniaeth eu hunain.
Bydd y Frenhines Fictoria hefyd yn ateb unrhyw gwestiynau, a bydd yn rhoi sgwrs fer am fywyd ar y pryd.
Gyda -
cerddoriaeth Fictoraidd;
eitemau amrywiol y gall ymwelwyr eu gweld a'u gwisgo - e.e. bydd tiaras/coronau ar gael er mwyn i westeion dynnu lluniau;
gwybodaeth ryngweithiol i gael manylion ychwanegol am fywyd y Frenhines Fictoria.
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 02 Awst 2025 |
11:00 - 16:00
|
Sul 03 Awst 2025 |
11:00 - 16:00
|
Categori | Price | |
---|---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
|
Oedolyn |
£6.50
|
|
Teulu* |
£20.70
|
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£4.50
|
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£5.80
|
|
Tocyn £1 Cadw – i'r rhai sydd ar Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill a enwir *2 oedolyn a hyd at 3 plentyn. Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim. **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein). |