Y Cwrwgl Dirgel yn Nghastell Cilgerran
Bydd Y Cwrwgl Dirgel yn trawsnewid Castell Cilgerran yn brofiad celfyddydol trochol ar ôl iddi nosi, gan gyfuno tân, sain, golau a pherfformiad byw.
Mae'r digwyddiad unigryw hwn yn tynnu ysbrydoliaeth o ffotograffiaeth Fictoraidd gan Tom Mathias a llên gwerin lleol o 'Ghostly Tales of Old Cilgerran' gan Idris Mathias.
Mae'r artistiaid rhyngwladol Mark Anderson a Liam Walsh, y cerddor gwerin lleol Mari Mathias, Collective Flight Syrcas, a Small World Theatre yn cydweithio â Think Creatively a Cadw ar y prosiect trawsddisgyblaethol hwn. Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Archebwch eich tocynnau ar-lein ymlaen llaw : https://think-creatively.co.uk/the-phantom-coracle/
Archebwch docyn i bob aelod o’ch parti.
Sylwch fod tocynnau ar gael ar-lein yn unig. Ni fydd tocynnau ar gael wrth y drws.
Os gallech ddod â'ch tocyn gan gynnwys y cod QR gyda chi, bydd hwn ar gael i'w lawrlwytho wrth archebu tocynnau.
Mae Castell Cilgerran yn agored i’r elfennau. Gwisgwch eisgidiau call, a dillad i’w defnyddio yn yr awyr agored.
Drysau’n agor: 6.00pm
Digwyddiad yn dechrau: 6.30pm
Digwyddiad yn dod i ben: 8.30pm
Noder y bydd parcio ar y stryd, gyda pharcio i bobl anabl ar gael ar gais.
Rydym yn argymell rhoi digon o amser i chi'ch hun i barcio a cherdded i'r safle.
Dilynwch yr arwyddion i'r castell a chyfarwyddiadau ein stiwardiaid.
Gofynnwn yn garedig i chi fod yn ofalus o barcio trigolion a pheidio â rhwystro ffyrdd gyrru.
Cod post SAT NAV: SA43 2SF
Cyrhaeddwch yn uniongyrchol yng Nghastell Cilgerran o 6.00pm ymlaen. Bydd lluniaeth ar gael.
Byddwch yn ymwybodol mai digwyddiad cerdded o gwmpas yw hwn, croeso i gadeiriau gwersylla.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Gastell Cilgerran!
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Iau 23 Hyd 2025 |
18:30 - 20:30
|
Gwen 24 Hyd 2025 |
18:30 - 20:30
|
Sad 25 Hyd 2025 |
18:30 - 20:30
|