MaeCastell Cilgerran ar agor fel rhan o'n rhaglen teithiau tywys o fis Mai i fis Awst bob blwyddyn. Mae'r teithiau hyn yn gyfle unigryw i archwilio'r safle gyda gwybodaeth arbenigol am ei hanes a'i arwyddocâd. Ydych chi eisiau bod ymhlith y rhai cyntaf i gael gwybod am ddyddiadau newydd ar gyfer teithiau, a’r prisiau?
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr a bydd diweddariadau’n dod yn syth i'ch mewnflwch
Hysbysiad Ymwelwyr
Gall tyrau'r castell gael eu cau ar fyr rybudd oherwydd tywydd garw / pryderon Iechyd a Diogelwch. Ymddiheurwn ymlaen llaw os byddwch yn ymweld a’u bod nhw dan glo.
Castell ysblennydd nad oedd mor ddiogel ag y gobeithiai’r Normaniaid
Safle Castell Cilgerran yw un o’r mwyaf ysblennydd yng Nghymru. Daw ei ddau dŵr crwn mawr i’r amlwg fry uwchben ceunant dwfn Afon Teifi a nant gyflym Plysgog.
Hawdd fuasai meddwl mai hwn oedd y llecyn perffaith i’r Eingl-Normaniaid amddiffyn y tiroedd yr oeddent newydd eu goresgyn. Cerddwch y llwybr gwefreiddiol ar hyd y wal o’r tŵr dwyreiniol i ddeall yn union mor frawychus oedd y lle, mae’n rhaid, i rwystro llywodraethwyr teyrnas hynafol Deheubarth.
Ond nid oedd yn ddigon cadarn, wedi’r cyfan. Mae’n siŵr mai castell ‘cylchfur’ a godwyd yma gyntaf ym 1108 gan yr anturiwr Normanaidd, Gerald de Windsor, ac yna newidiodd Cilgerran ddwylo lawer o weithiau dros y ganrif nesaf neu ragor.
Nid oedd rheolaeth y Normaniaid yn sefyll yn gadarn tan 1223, pan adeiladodd iarll nwyfus Penfro, William Marshal, ‘gastell addurnedig o forter a cherrig’ ar ben y safle gwreiddiol. Er bod Llywelyn ap Gruffudd ac Owain Glyndŵr wedi gwneud eu gorau glas, ni chwympodd Cilgerran byth eto i’r Cymry.
| 1st Ebrill - 31st Mawrth | 10am–4pm |
|---|---|
|
Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr Ar agor ac yn ddi-staff, gyda mynediad am ddim |
|
Canllaw mynediad
Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.
Croeso i gŵn
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Lle i gadw beiciau
Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 2 – Hawdd
Llogi Safle
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Iechyd a Diogelwch
Wedi'i amgylchynu gan ffos fawr sych, mae’n weddol hawdd mynd o amgylch tiroedd y castell, ond mae cyfle i gael mynediad at lwybrau cerdded ar ran uchaf a rhannau mewnol y castell ac i lawr i'r ffos.
Mae'r bont yn cynnwys cyfres o osodiadau i atal pobl rhag llithro, ni ddylid rhedeg ar draws y bont. Goruchwyliwch blant wrth ddefnyddio'r bont.
Mae mynediad i'r ffos trwy’r llwybr yng nghefn y safle.
Peidiwch â dringo'n uniongyrchol i fyny nac i lawr i'r ffos o ymyl glannau’r ffos. Goruchwyliwch blant bob amser wrth ddefnyddio'r ardal bicnic.
Mae mynediad i'r llwybr cerdded ar y wal trwy dyrau mewnol y castell. Yn y tyrau mae’r grisiau cerrig yn rhai gwreiddiol, gall y rhain fod yn llithrig ac yn anwastad.
Gwyliwch am lwybrau cerdded isel wrth fynd at rai o risiau'r tŵr.
Mae rheiliau gwarchod wedi'u gosod i atal mynediad i unrhyw rannau o'r safle yr ydym wedi barnu eu bod yn beryglus neu i atal pobl rhag cwympo mewn ardaloedd penodol.
Gall dringo arwain at anaf difrifol. Peidiwch â dringo dros neu drwy unrhyw osodiad sefydlog.
Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael, fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr.
Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.
Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.
Iechyd a Diogelwch / Health & Safety
Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol. Cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.
Cwymp sydyn
Camau serth ac anwastad
Toeau Isel
Wyneb llithrig neu anwastad
Cerrig yn disgyn
Rhif ffôn 03000 252239
E-bost cadw@tfw.wales
Cod post SA43 2SF
what3words: ///atyniadau.tywylla.graddiant
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50.
Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol