Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Beddrod Siambr Carreg Coetan Arthur

Visitor Notice

Noder: mae’r heneb hon ar eiddo preifat a dim ond ar droed y gellir ei chyrchu. Mae modd parcio nid nepell o’r safle (tua 350m/0.2 milltir).

Beddrod Neolithig gyda chysylltiadau â chwedl Arthur

Mae’r beddrod siambr bach hwn o Oes Newydd y Cerrig ymhlith y mwyaf cyflawn o glwstwr o safleoedd claddu ar lethrau Cwm Nyfer. Cynhelir talp mawr o faen capan gan ddau o’i bedwar o feini cerrig unionsyth gwreiddiol. Datgelwyd arteffactau gan gloddiadau o’r safle, gan gynnwys crochenwaith Neolithig, offer carreg ac esgyrn dynol wedi’u hamlosgi. Cyfeiria’r ‘coetan’ yn yr enw at y gêm ‘coetio’, sy’n aml yn gysylltiedig â chofadail o’r math hwn. Yn ôl y chwedl, bu’r Brenin Arthur ei hun yn chwarae’r gêm â charreg y beddrod hwn.              

Amseroedd agor a phrisiau

Amseroedd agor

1 Ebrill – 31 Mawrth

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr

Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Gwybodaeth i ymwelwyr

Cyfarwyddiadau

Google Map
Ffordd: Ger Trefdraeth, oddi ar yr A487, 6m (9.7km) i’r Dwy. o Abergwaun.
Rheilffordd: Harbwr Abergwaun 7m (11.3km).
Beic: RBC Llwybr Rhif 82 (0.2m/0.3km)

Cod post SA42 0LT

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50