Abaty a Chartws Llandudoch
Hysbysiad Ymwelwyr
Sylwch fod Canolfan Ymwelwyr y Cartws a'r cyfleusterau'n cael eu rheoli'n annibynnol – edrychwch ar eu gwefan am amseroedd agor :- www.stdogmaelsabbey.org.uk
Arolwg
Adfeilion anheddiad crefyddol arwyddocaol yn rhychwantu canrifoedd
Wedi’i sylfaenu ym 1120 ar safle eglwys gyn-Normanaidd gynharach, gellir gweld statws Llandudoch yn ganolfan grefyddol mewn adfeilion helaeth sy’n rhychwantu pedair canrif o fywyd mynachaidd. Tardda elfennau o’r eglwys a’r cloestr o’r 12fed ganrif, a daw waliau gorllewinol a gogleddol tal corff yr eglwys o’r 13eg ganrif. Adeiladwyd porth gogleddol cain, a chanddo addurniadau o’r 14eg ganrif a chroesfa ogleddol, yng nghyfnod y Tuduriaid.
Adferwyd Cartws yr abaty ac mae bellach yn gartref i amgueddfa a chanolfan ymwelwyr sy’n taflu goleuni ar nifer o ganrifoedd o fywyd Cristnogol drwy arteffactau sy’n eich tywys ar daith drwy amser. Ceir hefyd adluniad trawiadol o’r abaty ar ei anterth yn y 15fed ganrif, wedi’i gynhyrchu gan gyfrifiadur.
Amseroedd agor
Bob dydd 10am–4pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Costau mynediad |
Am ddim
|
Cyfleusterau
Toiledau hygyrch ar gyfer ymwelwyr.
Mae maes parcio cyhoeddus o fewn 200 metr i'r safle, oddi ar St. Dogmael's Road a gyferbyn â'r swyddfa bost (tua 50 o lleoedd).
Mae ardaloedd ar y safle yn hygyrch i bobl sy’n ei chael hi’n anodd symud o gwmpas.
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Ni chaniateir ysmygu.
Mae lluniaeth ysgafn ar gael.
Mae toiledau ymwelwyr ar y safle hwn.
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Cyfarwyddiadau
Cod post SA43 3DX
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50