Skip to main content

Castell Cilgerran — Canllaw Mynediad

Croeso i’n canllawiau hygyrchedd sydd wedi’i dylunio i’ch helpu i gynllunio eich diwrnod allan a darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, anfonwch e-bost atom neu ffoniwch ein tîm a fydd yn hapus i helpu:

Ebost: Cadw@gov.wales    Ffôn: 03000 252239

Ymweld â  Chastell Cilgerran

Does dim maes parcio arbennig yng Nghastell Cilgerran, ond mae llefydd parcio ar ochr y ffordd yn y pentref o fewn rhai munudau cerdded/gwthio'r ganolfan ymwelwyr: Golwg Google maps

Mae lôn darmac dirywiedig ar i lawr ‘dim mynediad i gerbydau’ o Sgwâr y Castell i'r ganolfan ymwelwyr.  Mae mynediad o’r mannau parcio ar ochr y ffordd yn y pentref yn wastad yn bennaf neu gyda graddiant bychan.

Mae maes parcio am ddim wrth lan yr afon sy'n daith gerdded 15-20 munud drwy goed ar hyd llwybr pridd llethrog anwastad gyda grisiau anwastad, fel arall gallwch chi gerdded/gwthio i fyny ffordd fynediad serth i faes parcio ac yna drwy'r pentref. Mae arwyddbyst o’r pentref i’r castell

Mae man gollwng ar gyfer car sengl ger mynedfa'r castell ar Sgwâr y Castell.

Mae'r safle bws agosaf ar y brif ffordd 5 munud o wthio/cerdded o fynedfa'r castell.

Mae'r llwybr o ganolfan ymwelwyr i'r porthdy yn bell o'r ganolfan ymwelwyr dros wyneb gwastad llyfn graeanog a phont bren.

Mae'r swyddfa docynnau mewn cwt pren gyda mynedfa ychydig ar lethr gyda'r ddesg docynnau wrth y fynedfa ac ardal y siop i'r dde. Mae'r swyddfa docynnau’n hygyrch i gadeiriau olwyn gyda drws safonol sy’n agor â llaw, gellir agor ail ddrws os oes angen. Un fynedfa / drws ymadael.

Mae dau doiled ar y safle o fewn y ganolfan ymwelwyr (pan fydd ar agor). Mae’r ddau doiled yn hygyrch. Dim cyfleusterau newid babanod.

Rhaid cadw cŵn ar dennyn bob amser a rhaid i gŵn nad ydynt yn gŵn cymorth aros ar y llawr gwaelod yn unig.

Mae tiroedd mewnol y castell wedi’u gosod yn bennaf i laswellt, yn rhannol yn wastad ac yn rhannol ar lethr.

Gellir gweld llawer o'r castell o lefel y ddaear, gyda'r rhan fwyaf o'r ardaloedd ar lefel y ddaear wedi'u gosod yn laswellt. Mae'r ward allanol y tu ôl i'r ganolfan ymwelwyr yn laswelltog ac ar lethr heb lwybrau wedi'u diffinio.

Mae mynediad i'r ddau dŵr a choridorau o fewn y castell drwy wahanol risiau troellog anwastad cul, ac mae rhai grisiau mewnol rhwng y tyrau. Mae carreg anwastad ar arwyneb y llawr drwy'r coridorau a llwybrau’r waliau. Mae canllawiau ar gael ar y pontydd pren uchaf, llwybrau’r waliau, a rhai o'r grisiau. Mae’r drysau o fewn y coridorau yn aml yn gul.

Mae dau ris ar waelod pob tŵr. Mae mynediad i'r ddyfrffos yn ddisgyniad byr drwy bedwar gris cerrig anwastad.

Cynllun Llawr — Castell Cilgerran

Taith sain   
Caffi
Diffibriliwr
Powlen i gŵn                                                   
Canllawiau print bras
Gofodau sain gref/goleuadau sy'n fflachio 
Parcio ar gyfer pramiau a sgwteri 
Cyfleusterau picnic 
Dolenni sain cludadwy
Gorsaf ail-lenwi dŵr
Nac oes
Nac oes
Nac oes
Oes (pan fydd y ganolfan ymwelwyr ar agor)
Nac oes
Nac oes
Nac oes
Oes
Oes
Nac oes (pan fydd y ganolfan ymwelwyr ar agor)