Skip to main content

Cynllun Llawr — Castell Cilgerran

Esiamplau o digwyddiadau ar y safle

  • Corau a cherddoriaeth fyw
  • Canu cymunedol
  • Hanes byw
  • Ail-greadau
  • Gwyliau blodau
  • Arddangosfeydd hebogyddiaeth
  • Theatr awyr agored
  • Ffeiriau crefft

Gwybodaeth meysydd parcio

Does dim lle parcio ar y safle, ond mae nifer cyfyngedig o leoedd parcio yn y pentref. Mae maes parcio am ddim ar lan yr afon a llwybr troed yn arwain i fyny'r bryn 250 llath i ffwrdd o'r fynedfa. Mae yna risiau ar y llwybr troed.

Mynediad i’r Safle

Mae’n bosibl y gall contractwyr gael mynediad i gerbydau i gatiau'r Castell. Mae'r lôn fynediad yn gul iawn a chyfyngedig yw’r lle troi. Y tu allan i oriau yn unig y caniateir unrhyw fynediad i'r safle i gerbydau ar gyfer digwyddiadau a hynny yn yr ardal o flaen y siop yn unig. Ni chaniateir cerbydau ar y glaswellt na thros y bont.

Mynediad i bobl sy’n chael yn anodd symud o gwmpas

Cyrhaeddir yr heneb i lawr ffordd darmac bengaead. Mae tir y castell yn rhannol lefel ac yn rhannol lethrog gyda glaswellt a llwybrau graean. Does dim modd cyrraedd y tyrau a'r ffos i'r rhai sy’n ei chael yn anodd symud o gwmpas.

Cyfleusterau

  • Mae toiledau gwryw a benyw ar gael i bob ymwelydd
  • Mae meinciau a byrddau picnic ar gael
  • Byrbrydau ar gael o'r siop anrhegion
  • Mae’r cysylltiad symudol yn dda ar y cyfan ar y safle

Trwydded ar y Safle?

Mae gan y safle drwyddedau PRS a PPL. Mae drwydded safle hefyd ar gael.

Mannau o dan do

Mae gan y safle drwyddedau PRS a PPL. Does dim man dan do ar y safle ar wahân i’r ganolfan ymwelwyr.

Trwydded ar gyfer Priodasau a Phartneriaethau Sifil

Nac oes

Cynllun  o’r safle

Oes

Power ar gael ar y safle

Mae soced cyflenwad pŵer 16amp o dan ben gogleddol y bont rhwng y Ward Allanol a'r Ward Fewnol. Er hynny, rhaid gofalu wrth fynd i’r lleoliad hwn. Rhaid i bawb sy’n trefnu digwyddiad ddefnyddio gwasanaethau trydanwr cymwys i'w cynghori am y gostyngiad yn y pŵer rhwng y soced a'r cyfarpar yn y pen draw. Rhaid darparu copi o'r cyfrifiad yn y cais.

Dwr ar gael ar y safle

Oes – dŵr o’r prif gyflenwad

Caniatad i osod pegiau yn y llawr

Oes - hyd at 110mm – 4 modfedd o ddyfnder

Unrhyw fannau cyfnedig?

Nac oes heblaw am yn ystod gwaith cadwraeth a gwaith cynnal a chadw.