Sgiliau Bywyd Canoloesol
Dysgwch y sgiliau sydd eu hangen i fyw yng Nghastell Harlech yn ystod y cyfnod Canoloesol.
Ymunwch â Heneb wrth i ni dreiddio i fywyd yr Oesoedd Canol. Byddwn yn dangos sut i ddefnyddio gwerthyd gollwng a dysgu am brosesu ffibr; byddwn hefyd yn edrych ar berlysiau a sbeisys a sut y cawsant eu defnyddio mewn coginio a meddygaeth.
Mae'r digwyddiad hwn yn ddigwyddiad partneriaeth rhwng Cadw a Heneb, ac mae'n rhan o'r Ŵyl Archaeoleg.
Yn addas ar gyfer pob oedran.
Nid oes angen i chi archebu lle ar gyfer y digwyddiad hwn.
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Maw 22 Gorff 2025 |
11:00 - 16:00
|
Categori | Price | |
---|---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
|
Oedolyn |
£10.50
|
|
Teulu* |
£33.60
|
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£7.30
|
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£9.40
|
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein). |