Diwrnod Crefftau a Gweithgareddau i’r Teulu
Ymunwch â ni ar gyfer ein Diwrnod Crefftau Teuluol yng Nghaerwent.
Ymunwch â ni yn ystod gwyliau’r haf eleni i ddifa’r diflastod canol wythnos gyda diwrnod rhad ac am ddim yn Ysgubor Caerwent.
Mwynhewch grefftau a gweithgareddau hwyliog ar gyfer y teulu cyfan ac i’r rhai iau, bydd hyfforddiant Llengfilwyr Bychain ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno bod yn filwr Rhufeinig
Bydd lluniaeth ysgafn ar werth yn y Ganolfan Ymwelwyr (Arian Parod yn Unig) ond mae croeso i chi ddod â phicnic a mwynhau'r awyr agored.
Rhaid i bob plentyn fod o dan oruchwyliaeth oedolyn. Sesiynau bore a phrynhawn ar gael.
Mae’r holl grefftau a gweithgareddau am ddim.
Tocynnau am ddim. Archebwch docynnau ar-lein ymlaen llaw.
Sylwch y bydd y sesiynau hyn yn cael eu cynnal yn y Ganolfan Ymwelwyr ar Ffordd Caerwent, ger Pound Lane. Trowch i mewn i'r maes parcio rhad ac am ddim ac fe welwch chi’r adeilad ar yr ochr dde.
Prisiau
| Categori | Price |
|---|---|
Amseroedd y digwyddiadau
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Mer 29 Gor 2026 |
10:00 - 15:30
|
| Archebwch | |