Tref Rufeinig Caer-went
Hysbysiad Ymwelwyr
Ni chaniateir gwersylla dros nos ar dir Tref Rufeinig Caer-went. Mae hyn yn cynnwys pebyll, faniau gwersylla a chartrefi modur.
Arolwg
Cipolwg ar dref farchnad wedi’i Rhufeinio
Hwyrach mai ei lleoliad cysglyd yn y gororau gwledig diarffordd yw’r rheswm pam mai Caer-went, Venta Silurum i’r Rhufeiniaid, yw un o’r cyfrinachau hynny a gadwyd orau. Heb os, mae Caerllion (Isca) gerllaw, un o drefi Rhufeinig pwysicaf Prydain, wedi dwyn ei chlodydd. Roedd Caer-went, a sefydlwyd tua 75-80 OC, yn anheddiad i’r Silwriaid, llwyth brodorol a gafodd ei Rufeinio yn dilyn goresgyniad Prydain.
Roedd yn lle prysur ynghyd â baddondai cyhoeddus, ar wasgar mewn grid Rhufeinig trefnus nodweddiadol. Mae’r olion trawiadol yn cynnwys waliau sy’n dal i sefyll hyd at 17 troedfedd / 5m, tai wedi’u datgloddio, ynghyd â marchnadfa a theml Brythonaidd-Rufeinig.
Amseroedd agor
Bob dydd 10am–4pm
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Costau mynediad |
Am ddim
|
Cyfleusterau
Bob dydd 10am–4pm
Ni chaniateir gwersylla dros nos ar dir Tref Rufeinig Caer-went. Mae hyn yn cynnwys pebyll, faniau gwersylla a chartrefi modur.
Sylwch fod maes parcio a thoiledau Porth Gorllewin Caer-went ar gau ar hyn o bryd.
Cyfarwyddiadau
Cod post NP26 5BA
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50