Bryngaer Coed Llanmelin
Arolwg
Pwy oedd yn byw yma?
Mae bryngaerau a godwyd gan Frythoniaid brodorol, neu ‘Geltiaid’, yn yr Oes Haearn cyn dyfodiad y Rhufeiniaid yn drwch ar lawr yng Nghymru. Ni wyddom yn sicr pwy yn union a feddiannai’r safle hwn fry uwchben Môr Hafren. Mae’n ddigon posibl y bu Llanmelin yn gartref i breswylwyr a symudodd i lawr i Gaer-went gerllaw, a sefydlwyd tua 75–80 OC. Venta Silurum (Caer-went) oedd ‘tref marchnad y Silwriaid’, llwyth brodorol a gafodd ei Rufeinio yn dilyn concwest Prydain. Efallai nad cyd-ddigwyddiad mohono fod Llanmelin fel petai wedi’i adael tua 75 OC.
Datgelodd cloddiadau fod ei breswylwyr yn byw mewn tai crwn o bren a llaid, yn cadw gwartheg, defaid a moch, yn defnyddio crochenwaith, yn mwyndoddi copr ac yn cerfio cyrn ceirw cochion. Mae gwrthgloddiau sydd wedi goroesi yn awgrymu anheddiad ac iddo dair nodwedd eglur: prif wersyll, ehangiad cyfagos (cyfres o lociau petryalog) ac allbost mewn coetir 275 o lathenni / 250m i ffwrdd.
Amseroedd agor
Bob dydd 10am–4pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Costau mynediad |
Am ddim
|
Cyfleusterau
Cyfarwyddiadau
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50