Skip to main content

Dangosodd gwaith cloddio rhwng 1930 a 1932, a arweiniwyd gan V. E. Nash-Williams o Amgueddfa Genedlaethol Cymru, y dechreuwyd adeiladu'r fryngaer yn ystod y drydedd ganrif CC — tua 2,300 o flynyddoedd yn ôl — fel clostir llai wedi'i amgylchynu gan un clawdd a ffos. Gellir gweld rhan fach o'r sylfeini hyn o hyd y tu allan i'r prif gloddiau ar yr ochr ogledd-ddwyreiniol. Tua 150 o flynyddoedd yn ddiweddarach, newidiwyd y prif glostir drwy adeiladu cloddiau ychwanegol. Cafodd ochr allanol y clawdd mewnol ei hatgyfnerthu â rhesi o gerrig a thorrwyd y ffosydd i mewn i'r creigwely calchfaen.

Yn yr ardaloedd a gafodd eu cloddio, prin oedd y dystiolaeth i ddangos bod tai crwn yn y prif glostir, ond mae'n debygol iawn bod mwy o bobl yn byw yma nag y mae'r canlyniadau hyn yn awgrymu. Dangosodd yr esgyrn a gloddiwyd fod anifeiliaid domestig fel defaid a moch yn ogystal â cheirw coch yn bresennol.  Daethpwyd o hyd i dystiolaeth o waith llosgi, toddi copr, cerfio cyrn a choginio/bwyta hefyd sy'n dangos y cynhaliwyd amrywiaeth o weithgareddau yma.

Dechreuodd trydydd cam — a cham olaf — y gwaith adeiladu ym Mryngaer Oes Haearn Llanmelin tua 50CC pan gafodd y fynedfa ei hailfodelu a'i hatgyfnerthu. A allai hyn awgrymu bod mwy o fygythiad o ymosodiadau ar y pryd?

Cafodd ochr ogleddol y fynedfa ei thorri'n ôl a'i hailorchuddio er mwyn codi llwyfannau pren ar bob ochr i greu porth cadarnach. Cafodd palisau pren eu hadeiladu ar ben y cloddiau hefyd. Credwyd i'r rhannau ychwanegol gael eu hadeiladu tua'r adeg hon, a hynny o bosibl er mwyn corlannu anifeiliaid. Fodd bynnag, mae esgyrn dynol a ganfuwyd yn yr ardal hon a'r ffaith nad oedd mynedfeydd i'r clostiroedd llai o faint yn awgrymu y gallai'r ardal ychwanegol hon fod wedi cael ei defnyddio at ddibenion hollol wahanol - dibenion angladdol o bosibl.

Mae crochenwaith a ganfuwyd yn Llanmelin, sy'n dyddio o tua 75OC, yn awgrymu y cefnwyd ar y fryngaer yn ystod y cyfnod hwn, gan na ddaethpwyd o hyd i unrhyw grochenwaith mwy diweddar. 

Roedd gweithgarwch mwy diweddar rydym yn gwybod amdano ar y safle wedi'i ganoli yn y rhan ychwanegol, lle mae adfeilion llwyfannau dau gwt crwn canoloesol. Yn fwy diweddar, roedd y fryngaer yn rhan o ardal hyfforddi'r Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghaer-went. Heddiw, mae'r fryngaer yn eiddo i Cadw ac mae'r tir o'i chwmpas yn gartref i lawer o rywogaethau o fflora a ffawna.

Yn 2012, gwnaeth Cadw waith cloddio yn y fryngaer gyda help llawer o aelodau o'r gymuned fel rhan o Brosiect Cymuned Llanmelin. Nod y prosiect yw rhoi cyfleoedd i bobl o bob cefndir wneud gwaith archaeoleg gan ddefnyddio Llanmelin fel ffocws.

Roeddem am ddysgu mwy am ffordd o fyw pobl yn Llanmelin fel y gallwn adrodd stori'r trigolion hynny i ymwelwyr yn ogystal â hanes y fryngaer. 

Pryd roedd pobl yn byw yma a pha weithgareddau oedd yn digwydd? Oedd y bobl hyn yn rhan o lwyth y Silwriaid ac a oedd Llanmelin yn ganolfan gymdeithasol a gwleidyddol ar adeg goresgyniad y Rhufeiniaid?

Roedd pum cwys cloddio wedi'u lleoli yng nghyffiniau'r ardaloedd a gloddiwyd gan Nash-Williams. Roeddem am brofi cywirdeb ei ganfyddiadau a gweld a allem ddod o hyd i ragor o wybodaeth heb wneud llawer mwy o ddifrod i'r heneb.

Roedd un gwys gloddio yn canolbwyntio ar glawdd mewnol y prif glostir, un ar y fynedfa ac roedd y tair arall yn canolbwyntio ar ardaloedd y tu mewn i'r prif glostir.  Datgelodd y cwysi cloddio yn y prif glostir gyfres o nodweddion, gan gynnwys tomen sbwriel fawr. Roedd rhai tyllau pyst hefyd a allai ddynodi safleoedd strwythurau a ddefnyddiwyd i sychu a storio grawn, yn ogystal â rhai gylis. Er na allwn fod yn gwbl sicr, efallai bod y gylis yn dangos siâp crwn y tai sydd mor nodweddiadol o Oes yr Haearn ym Mhrydain.

Roedd y gwys gloddio yn y brif fynedfa yn cynnwys gwaddodion cymysg o'r adeg pan lenwodd Nash-Williams yr ardaloedd a gloddiwyd ganddo. O ganlyniad, roedd yn anodd iawn dehongli'r archaeoleg. Fodd bynnag, roedd yn amlwg bod y clawdd gogleddol wedi'i wneud o galchfaen.  Yn yr un modd, roedd prif glawdd mewnol y clostir wedi'i adeiladu o gerrig hefyd ond nid oedd iddo wyneb cerrig clir, sy'n mynd yn groes i ganlyniadau gwaith cloddio Nash-Williams.

Cafodd y ffos ei thorri i mewn i'r creigwely calchfaen a chafodd y cerrig a gliriwyd i greu'r ffos hon eu defnyddio i godi'r clawdd. Roedd torri'r ffos hon, sy'n gymharol ddwfn, yn gryn dipyn o gamp.

Rydym wrthi'n dadansoddi'r gwaith cloddio ei hun a'r symiau mawr o grochenwaith ac esgyrn anifeiliaid a ganfuwyd. Byddwn yn diweddaru'r wybodaeth cyn gynted ag y bydd yr arbenigwyr amrywiol wedi gorffen eu gwaith. 

Dengys yr asesiad cychwynnol o'r esgyrn anifeiliaid mai gwartheg oedd y rhywogaeth fwyaf cyffredin a ganfuwyd gyda rhai defaid neu eifr a moch yn ogystal â rhai darnau o gŵn, ceffylau a cheirw coch. Gallwn ddysgu llawer mwy am arferion amaethyddol drwy ddadansoddi ymhellach. Rydym yn gobeithio dysgu pa un a oedd gwartheg yn cael eu lladd yn ifanc am eu cig neu pa un a fyddent yn cael eu cadw i aeddfedu fel gwartheg llaeth. Efallai y gallwn ddweud pa un a oeddent yn pori ar y gorlifdir neu ar y tir uchel ger y fryngaer. 

Mae astudiaethau cychwynnol o'r crochenwaith yn awgrymu bod yr ardaloedd a gafodd eu cloddio yn cael eu defnyddio yng nghanol Oes yr Haearn - cyfnod rhwng 400 a 100CC. Bu cyfnod o weithgarwch cymharol ddwys yn y prif glostir yn ystod y ganrif gyntaf OC.