Plas Mawr — Canllaw Mynediad
Croeso i’n canllawiau hygyrchedd sydd wedi’i dylunio i’ch helpu i gynllunio eich diwrnod allan a darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, anfonwch e-bost atom neu ffoniwch ein tîm a fydd yn hapus i helpu:
Ebost: PlasMawr@llyw.cymru Ffôn: 03000 252239
Mae 2 le parcio hygyrch pwrpasol ar ymyl y ffordd ger y ganolfan ymwelwyr: Golwg Google maps
Mae Plas Mawr wedi’i leoli ar y stryd fawr yng Nghonwy. Mae parcio cyfyngedig yn bosibl ar y ffordd y tu allan, ond mae llefydd yn gyfyngedig. Mae sawl maes parcio canolig a mawr â thâl yn y dref ac ar y cyrion. Mae'r maes parcio ger Castell Conwy oddeutu 500 metr o Blas Mawr, gyda thaith gymharol wastad rhwng y ddau, a llefydd parcio hygyrch. Mae modd cyrraedd y dref ar y trên a'r bws hefyd, gyda'r orsaf a bysiau yn stopio rhai cannoedd o fetrau o Blas Mawr.
Mae tri gris, ardal goblog ac yna ris arall i fynd i mewn i'r siop o'r palmant.
Mae siop anrhegion bach lle mae modd prynu tocynnau ym mhorthdy Plas Mawr. Mae tua 30 metr o’r siop i’r prif dŷ ac mae coblau a rhes o risiau. Gellir trefnu mynediad i gadeiriau olwyn dros fynedfa i'r ochr, galwch ymlaen llaw (01492 573605) neu gofynnwch i'r staff yn y siop anrhegion.
Mae toiledau ar gael ar y safle, gan gynnwys toiled hygyrch gyda chyfleusterau newid babanod.
Cŵn cymorth yn unig
Mae llawer o risiau ar draws y tri llawr ym Mhlas Mawr, ac mae mynediad i gadeiriau olwyn ar gael i rai ardaloedd o lawr gwaelod y prif dŷ yn unig. Mae grisiau a lloriau drwy'r tŷ yn bren ac mae'n bosibl eu bod yn anwastad mewn mannau. Cofiwch hefyd am drothwyon uchel a drysau isel wrth fynedfeydd ystafelloedd, yn ogystal â thrawstiau to isel yn yr atig.
Mae mynediad i’r Tŵr arsylwi drwy risiau serth arddull ysgol.
Mae teithiau sain ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Taith sain Caffi Diffibriliwr Powlen i gŵn Canllawiau print bras Gofodau sain gref/goleuadau sy'n fflachio Parcio ar gyfer pramiau a sgwteri Cyfleusterau picnic Dolenni sain cludadwy Gorsaf ail-lenwi dŵr | Oes Nac oes Oes cŵn cymorth yn unig. Dŵr ar gael ar gais Nac oes Nac oes Nac oes Mae bwrdd a chadeiriau yn yr iard lle gallai ymwelwyr fwyta eu bwyd eu hunain Oes Nac oes |