Dylunio mewnol gyda thro Tuduraidd
Y Brenin Harri VIII, a oedd wrth ei fodd ag addurno afradlon, a gyflwynodd waith plastr addurnol i dai Lloegr. Daeth yn ffasiynol iawn – ond dim ond ymhlith y bonedd.
Erbyn oes Elisabeth, roedd wedi araf symud i lawr y raddfa gymdeithasol. Roedd masnachwyr uchelgeisiol fel Robert Wynn wedi gwirioni ar y ffordd y byddai’n dod â lliwiau llachar i’w cartrefi.
Ond nid mater o ddylunio mewnol yn unig mohono. Wedi’i daenu â bathodynnau ac arfbeisiau, roedd y gwaith plastr hwn yn ei baent gorwych hefyd yn anfon neges bwerus am statws cymdeithasol.
Ym Mhlas Mawr, mae llawer o’r symbolau hyn yn eiddo i dywysogion Gwynedd yr hawliodd Robert Wynn a’i wraig Dorothy ddisgyniad ganddynt. Maent yn cynnwys arwyddlun erchyll teulu Griffith – sef pen Sais wedi’i dorri.
Edrychwch am y silff simnai uwchben y lle tân yn neuadd y fynedfa, sy’n esiampl anhygoel o grefft y prif blastrwr. Buasai ei harfbeisiau a’i rhosynnau Tuduraidd yn dweud wrth bob ymwelydd yn union i bwy roedd y teulu’n ffyddlon.
Ond anodd yw dychmygu sut y buasent yn dehongli’r caryatidau a’u bronnau noeth, yn cario basgedi o fefus ar eu pennau.
Gormodaeth bur sydd yma, yn ôl pob golwg – ond gwnaeth Robert Wynn yn siŵr ei fod yn cyfateb y neges i’r ystafell. Arfbeisiau brenhinol yw’r canolbwynt yn y siambr fawr lle byddai’n croesawu ei well. Ond yn yr ystafelloedd gwely preifat, lle na allai neb arall weld, câi arwyddlun teulu Wynn fynd dros ben llestri.