Adeiladwyd Plas Mawr yng Nghonwy rhwng 1576 a 1585, ac mae yng nghanol strydoedd cul a choblog y dref ganoloesol hon.
Mae’n ddigon tebyg mai dyma’r tŷ trefol Elisabethaidd sydd yn y cyflwr gorau ym Mhrydain. Mae'r tu mewn i'r tŷ, â'i nenfydau plastr wedi'u haddurno'n gain a sgriniau pren coeth, yn adlewyrchu cyfoeth a golud uchelwyr yn oes y Tuduriaid yng Nghymru. Mae'r tŷ, y cyrtiau a'r ardd wedi cael eu hadfer yn ofalus iawn, ac maent yn cynnig cefndir unigryw i ffotograffau.
Gall pob ardal ddarparu ar gyfer uchafswm o 40 o bobl.
Pecyn Priodasau
Ffioedd Llogi
Dyma’r ffioedd ar gyfer 2023:
Mae gan Cadw yr hawl i godi bond amodol ad-daladwy. Telir hwn ar ôl gwneud cais. Mae'r prisiau yn cynnwys TAW.
Mae dwy ardal ar gael ar gyfer seremonïau sifil: y Neuadd Fawr ar y llawr gwaelod, a’r Siambr Fawr ar y llawr cyntaf, a gyrchir gan risiau pren cul.
Am resymau iechyd a diogelwch, rhaid i uchafswm nifer y gwesteion gynnwys y ddau gofrestrydd, y priodfab a’r briodferch, y ffotograffydd ac unrhyw gerddorion. Mae amseroedd yn amrywio yn ôl oriau agor y tymor. Gall yr amseroedd a’r dyddiadau sydd ar gael amrywio yn dibynnu ar oriau agor tymhorol.
Sylwch fod Plas Mawr ar gau o fis Tachwedd i fis Mawrth.
Sut i archebu
Gellir llogi Plas Mawr 13 mis cyn y dyddiad. Er enghraifft, gellir trefnu unrhyw ddyddiad ym mis Mehefin 2023 oddi ar ddiwrnod gwaith cyntaf mis Mai 2022.
Gwiriwch fod cofrestrydd ar gael i gynnal y seremoni cyn gwneud archeb dros dro. Gellir gwneud hyn drwy Wasanaethau Cofrestru Bwrdeistref Sirol Conwy — Ffôn 01492 576624.
I archebu Plas Mawr ar gyfer eich priodas:
Cysylltwch â thîm Plas Mawr
Ffôn: 01492 580167
E-bost: plasmawr@llyw.cymru