Skip to main content
Plas Mawr
Wedi ei gyhoeddi
Enillodd tîm ymroddgar o wirfoddolwyr, calon ac enaid y Tŷ Elisabethaidd Plas Mawr, sydd wedi ei leoli o fewn muriau tref Conwy, y Gwobrau Marsh pwysig i Gymru fel rhanbarth, a hynny mewn cystadleuaeth frwd a chaled.

Gwobr Marsh i Wirfoddolwyr mewn Addysg Amgueddfa

Trefnir y Gwobrau hyn mewn partneriaeth gyda’r Amgueddfa Brydeinig ac maent yn cydnabod y ffyrdd gorau a mwyaf arloesol y mae gwirfoddolwyr yn gweithio o fewn amgueddfeydd lleol a chenedlaethol i ennyn diddordeb y cyhoedd gyda chasgliadau ac arddangosfeydd.

Mae’r Gwobrau yn cydnabod 12 enillydd rhanbarthol ac yn dathlu prosiectau sydd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn flaenorol.

Cyflwynir y Wobr Genedlaethol i’r rhanbarth lle mae’r beirniaid yn credu bod yr enillydd wedi gwneud gwahaniaeth rhagorol i’r modd y mae eu hamgueddfa’n ennyn diddordeb y cyhoedd ac wedi cyflwyno dimensiwn unigryw i’r agwedd hon.

 (at the awards ceremony the overall UK winner is announced so fingers crossed we may have to change some text)

Plasty Elisabethaidd Plas Mawr Cymru – Grŵp Gwirfoddolwyr

Mae’r gwirfoddolwyr ym Mhlas Mawr yn ychwanegu rhywbeth unigryw a gwerthfawr i’r Tŷ. Mae eu presenoldeb lliwgar, ysbrydoledig a gwybodus yn gwneud cryn wahaniaeth i brofiad yr ymwelydd ac i’r cynnig addysgiadol i ysgolion.

Yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf mae ein gwirfoddolwyr wedi mynd o nerth i nerth. Mewn gwirionedd, mae rhai o’r gwirfoddolwyr wedi bod yn y tŷ am gymaint â hynny o flynyddoedd!

Pan gychwynnodd y gwirfoddolwyr ym Mhlas Mawr eu rôl oedd gweithio fel stiwardiaid yn yr ystafelloedd, ond yn awr maent yn gymeriadau lliwgar sy’n gallu cynnig dawnsio Tuduraidd, gwersi cerddoriaeth, gwneud marsipán, ac yn eu hamser rhydd maent yn creu gwisgoedd sy’n hanesyddol fanwl a hardd gan frodio cynlluniau Tuduraidd lliwgar ar ddefnyddiau yn y tŷ.

Mae’r cohort o dros 30 o wirfoddolwyr wedi creu cymuned fywiog a ffrindiau yn y tŷ, pob un yn helpu ei gilydd i ddatblygu sgiliau newydd tra’n gwneud ffrindiau newydd ac yn gwella’u hiechyd a’u lles eu hunain.

Mae’r gwirfoddolwyr wedi datblygu cymeriadau Tuduraidd newydd iddynt eu hunain – cymeriadau gwirioneddol yn ôl y gofynion i gynnal y cartref. Gall ymwelwyr gyfarfod aelodau’r Cartref a siarad gyda hwy am eu bywyd yn y tŷ Tuduraidd, o’r morynion i’r cogydd hyd at ymweld â’r bobl bwysig o fewn cartref teulu’r Wynn. Mae gweithgareddau’n cynnwys dawnsio a cherddoriaeth Tuduraidd, coginio a’r gweithgaredd bythol boblogaidd, gwneud cwrw.

Yn ogystal â hyn, mae’r gwirfoddolwyr wedi gwneud cyrsiau hyfforddiant mewn creu gwisgoedd Tuduraidd a llifo naturiol ac maent wedi creu dros 50 o wisgoedd hanesyddol fanwl, hardd iddynt eu hunain, i’r staff ac ar gyfer yr oedolion a’r plant gael eu gwisgo.

Yn gyffrous iawn yn ddiweddar, pan ddaeth y newyddion am eu llwyddiant hynod i’r amlwg, llwyddodd un gwirfoddolwr i gael swydd lawrydd yn creu gwisgoedd hanesyddol.

Mae’r gwirfoddolwyr ym Mhlas Mawr, mewn gwirionedd yn gwneud y profiad ar gyfer yr ymwelwyr yn un sy’n fwy creadigol a chyffrous, yn lliwgar a chofiadwy.

Hebddynt hwy, eu creadigrwydd, eu hegni cadarnhaol a brwdfrydedd, ac wrth gwrs eu parodrwydd i fod yn gymeriad o’r gorffennol, tŷ hanesyddol deniadol yn unig fyddai Plas Mawr, a dim ond hynny. Y gwirfoddolwyr yw calon ac enaid y tŷ.

Mae eu gwybodaeth yn hynod ac maent yn meddwl am ffyrdd newydd a chyffrous i wneud profiad yr ymwelydd yn fwy gwerthfawr drwy’r amser.

Mae’r gwisgoedd wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac mae’r gweithdai gwnio wedi dod yn ddigwyddiad cymdeithasol i’r gwirfoddolwyr – gydag ymarfer dawnsio yn ei ganol. Mae’r grŵp dawns wedi bod ‘Ar Daith’ gyda cheisiadau i ymweld â digwyddiadau mewn canolfannau cymdeithasol er mwyn arddangos eu sgiliau ac annog eraill i gymryd rhan.

Mae’r gwirfoddolwyr yn creu uchafbwyntiau newydd a chyffrous bob blwyddyn… nhw yw calon Plas Mawr ac rydym ni yn Cadw yn anrhydeddu eu gwobr anhygoel a haeddiannol.

Meddai Sheena Williams, rheolwr y gwirfoddolwyr ym Mhlas Mawr:

“Rydym wrth ein boddau yma yn y tŷ. Mae’r gwirfoddolwyr yn llwyr haeddu’r gydnabyddiaeth hon. Maent yn rhan o hanes cyfoethog y tŷ ac nid oes terfyn ar eu creadigrwydd. Anrhydedd sy’n gwbl haeddiannol am eu hymroddiad i Blas Mawr".

 Buont yn casglu eu gwobr mewn seremoni fawreddog yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain ar y 23ain o Fedi.