Skip to main content

Bu Dysgu Gydol Oes Cadw a chydlynydd gwirfoddoli Dyffryn Maes Glas yn cydweithio i dreialu prosiect newydd i alluogi grŵp o wirfoddolwyr brwdfrydig i ddatblygu adnodd ar-lein cyffrous newydd i’r genhedlaeth newydd ei ddefnyddio ym myd addysg. Ceision ni roi hawl i wirfoddolwyr ddatblygu a chyfoethogi sgiliau hen a newydd. 

Ceision ni hefyd helpu i greu awyrgylch cynhyrchiol i hyrwyddo iechyd a lles i bawb a throsglwyddo sgiliau a gwybodaeth o genhedlaeth i genhedlaeth. Abaty Dinas Basing oedd y lleoliad perffaith ac roedd ar stepen drws y grŵp.

Mewn partneriaeth â Llyfrgelloedd Cenedlaethol Cymru, Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru ac Archifau Sir Fflint a’u cefnogaeth, llwyddon ni i helpu gwirfoddolwyr i ddatblygu pecyn adnoddau addysgiadol i athrawon/plant ei ddefnyddio yn ac o gwmpas Abaty Dinas Basing. 

Gellir defnyddio’r pecyn adnoddau i ymweld ar eich liwt eich hun ynghyd â nodiadau ar gyfer athrawon. Gellir cysylltu ei ffeithiau a themâu diddorol â’r cwricwlwm creadigol newydd hefyd. Creodd y gwirfoddolwyr waith celf gwreiddiol i gyd-fynd â’r adnodd gan ymgynghori ag ysgolion lleol yn ystod holl gamau’r prosiect.

Llwyddodd y prosiect hwn, y gweithiodd tîm Dysgu Gydol Oes Cadw mor galed arno, ac sydd wedi gwneud gwahaniaeth i gymuned Treffynnon, i ennill gwobr Gwirfoddolwyr Amgueddfeydd Prydain Marsh ar gyfer Cymru, ac aeth Dyffryn Maes Glas, y gwirfoddolwyr a Cadw i’r seremoni ddydd Llun 24 Medi 2018 yn Llundain.