Hanes Dreigiau Cadw
Efallai bod cestyll ysblennydd Cymru wedi gweld gwarchaeoedd anferth, brwydrau mawr a phartïon moethus yn ystod y blynyddoedd canoloesol, ond yn fwy diweddar, mae'r cadarnleoedd hanesyddol wedi bod yn dir cyfarwydd i deulu anhygoel Dreigiau Cadw.
Efallai eich bod wedi eu gweld yn crwydro o gwmpas tyrau gwych eich hoff gastell Cymreig, neu efallai eich bod chi wedi bod yn ddigon dewr i gwrdd â nhw wyneb yn wyneb pan oedden nhw’n teithio’r wlad y llynedd ... ond ydych chi'n gwybod sut y dechreuodd y pedwarawd enwog?
A hithau’n fore Dydd Gŵyl Dewi 2017, a'r niwl yn drwch dros dref Caernarfon, deffrodd y trigolion i weld dwy Ddraig ar y Maes — ac roedd un ohonyn nhw’n edrych yn gyfarwydd iawn!
Roedd Dewi, y Ddraig a laniodd yng Nghastell Caerffili ar 01 Mawrth 2016, yn ôl — ond y tro yma, roedd ganddo ffrind arbennig iawn gydag ef — Dwynwen, Draig newydd sbon Caernarfon.
Gyda muriau mawreddog Castell Caernarfon yn y cefndir, roedd y ddau'n cael cwtch cariadus ar y Maes.
Roedd un peth yn amlwg — roedd y Dreigiau mewn cariad. Ond sut wnaethon nhw gyfarfod? Wel, bydd rhaid i chi ddarllen eu stori serch...
Gadewch i ni ddechrau yn y dechrau.
Filoedd o flynyddoedd yn ôl, mewn cyfnod llawn dreigiau, gwrachod a chewri, cerddai Brenin Cymru yn ogofâu dwfn a thywyll Dinas Emrys.
Roedd y Brenin ar goll. Roedd wedi bod yn cerdded ers dyddiau yn nhywyllwch dudew yr ogofâu. Ar ôl cerdded am filltiroedd yn llwglyd ac yn llawn anobaith, dychmygwch ei ryddhad pan welodd wy mawr yn disgleirio yn y tywyllwch.
Yn y dyddiau hynny, y gred oedd y byddai unrhyw greadur a fyddai'n bwyta wy draig mewn camgymeriad yn troi’n ddraig. Roedd y Brenin yn gwybod hyn. Ond roedd hefyd yn gwybod pa mor brin oedd wyau draig. Ac erbyn hynny, ar ôl siwrnai mor faith, doedd dim ots ganddo gan ei fod bron â marw eisiau bwyd.
Craciodd y Brenin yr wy a llywcio’r cyfan. Yna, BANG! Diflannodd y Brenin, ac yn ei le safai draig anferthol.
Mae pawb yn gwybod bod dreigiau'n hoffi llefydd tywyll, tamp, felly roedd yn fodlon iawn ei fyd yn yr ogof. Ond wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, diflasodd ar yr ogof. Roedd yn ysu am gael cwmni.
Felly mentrodd y Ddraig allan o’r ogof ac esgyn yn uchel uwchben Dinas Emrys, cyn hedfan i gyfeiriad y de i chwilio am gartref newydd.
Bu'n hedfan am oriau lawer cyn sylwi ar furiau urddasol yn bell bell oddi tano. Plymiodd i lawr i gael gweld yn well, a glanio ar fryncyn castell trawiadol iawn. Castell Caerffili.
Yn ôl pob sôn, mae dreigiau, wrth reddf, yn cael eu denu at gestyll. Maen nhw wrth eu bodd â dwnsiwn i gael cuddio ynddo, ac yn hoffi cael tyrrau uchel i’w dringo. Doedd y Ddraig yma ddim gwahanol.
Treuliodd oriau’n crwydro o amgylch y castell, wedi'i chyfareddu’n llwyr, cyn gorwedd a gorffwys ar yr arglawdd, wedi blino'n lân.
Y bore wedyn, deffrodd i weld môr o wynebau syn. Yn digwydd bod, roedd wedi glanio yng Nghastell Caerffili yn barod am Ddydd Gŵyl Dewi – dathliad cenedlaethol yng Nghymru.
Roedd yn teimlo’n ofnus ar y dechrau, ond doedd dim angen — mae pobl Cymru wedi bod yn hoff o ddreigiau erioed. A doedd neb wedi gweld draig go iawn yng Nghymru ers canrifoedd, felly roedd pawb wedi cyffroi’n lân.
Wrth i'r diwrnod fynd yn ei flaen, aeth y dorf yn fwy ac yn fwy. Roedd y bobl mor falch o weld y Ddraig, dyma nhw’n penderfynu ei henwi’n Dewi — ar ôl eu nawddsant — a gofynnwyd i Dewi ddod i fyw yng Nghastell Caerffili.
Roedd Dewi yn fwy na pharod i dderbyn y cynnig, ac wedi gwirioni ar ei enw a’i gartref newydd. Felly bu'n crwydro tir y castell ac yn gwarchod y muriau am wanwyn cyfan...
Roedd Dewi wrth ei fodd â’i gartref newydd ond ni allai beidio â meddwl beth arall oedd gan Gymru i'w gynnig.
Ym mis Gorffennaf 2016, aeth Dewi ar wyliau. Cafodd gyfle i grwydro saith o gestyll gwahanol ar hyd a lled Cymru, a mwynhau’r golygfeydd godidog wrth fynd o un i’r llall. Un diwrnod, ar ôl ymweld â Chastell Caernarfon, penderfynodd fynd am dro i ben yr Wyddfa.
Ar ôl cyrraedd y copa, edrychodd ar y golygfeydd anhygoel o'i gwmpas. Ond yna, fe glywodd sŵn. Sŵn ysgafn pâr arall o adenydd.
Trodd ei ben, a gweld rhywbeth porffor yn disgyn drwy'r cymylau tuag ato. Edrychodd eto, wrth i Ddraig fenywaidd fendigedig lanio ar ochr y mynydd.
Astudiodd y ddau ei gilydd, eu llygaid duon treiddgar yn syllu ar y naill a’r llall. O fewn eiliadau, dechreuodd y ddau siarad â’i gilydd mewn iaith ddieithr nad oedd yr un ohonyn nhw wedi'i siarad o'r blaen. Iaith y dreigiau oedd hi — iaith nad oedd wedi cael ei chlywed yng Nghymru ers canrifoedd. Crynodd y llethrau a'r llechweddau mewn llawenydd wrth glywed y sain hynafol.
Roedd y ddau mewn cariad. Ond roedden nhw’n gwybod y byddai'n rhaid iddyn nhw fod ar wahân. Wedi’r cyfan, roedd Dewi yn gyfrifol am warchod Castell Caerffili, a gwyddai ei gariad na allai hithau adael tiroedd trawiadol Gwynedd, er ei bod hi’n ysu am gael castell ei hun i’w alw’n gartref.
Gofynnodd Dewi i’r Ddraig beth oedd ei henw, ond dywedodd hithau nad oedd ganddi hi un. Felly galwodd Dewi hi’n Dwynwen — ar ôl nawddsant y cariadon yng Nghymru. Cyn ffarwelio, addawodd y ddau, os byddai’r cariad rhyngddyn nhw’n parhau, i gyfarfod yng Nghaernarfon ar 01 Mawrth 2017.
Roedd Dewi yn gobeithio o waelod calon y byddai Dwynwen yn dod i gwrdd ag ef yng Nghaernarfon. Roedd yn gwybod y byddai’r bobl leol yn rhoi croeso cynnes iddyn nhw ar y dyddiad arbennig hwn, ac yn gobeithio'n ddistaw bach y bydden nhw’n gofyn i Dwynwen ddod i warchod Castell Caernarfon yn barhaol.
Treuliodd Dewi a Dwynwen rai misoedd ar wahân ar ôl gwneud yr addewid hwn. Ond, cariad pur sydd fel y dur, a thyfodd eu cariad yn fwy bob dydd.
Felly wrth gwrs fe wnaeth Dewi a Dwynwen gyfarfod yng Nghaernarfon ar y diwrnod hwnnw; fe wnaeth pobl y dref ofyn iddi ddod i warchod y castell yn barhaol; ac yn bwysicach na dim, fe benderfynodd y ddwy Ddraig fwrw ymlaen â’u perthynas gariadus o bell.
Ac roedd pawb yn hapus am byth bythoedd. Ond nid dyna ddiwedd y stori...
Roedd perthynas o bell Dewi a Dwynwen yn mynd yn dda iawn.
Roedd y cwpl tanllyd yn trefnu dêt i’r dreigiau bob bythefnos ac weithiau’n mynd i hedfan yn hwyr y nos yn yr awyr uwchben Cymru; dro arall byddent yn cyfarfod i fynd am dro yn nhirwedd odidog y wlad.
Ond un diwrnod ym mis Ebrill, bu’n rhaid i Dwynwen ganslo’i dêt gyda Dewi. Roedd hi’n teimlo braidd yn wan ac yn amau a allai hi lwyddo i hedfan.
Roedd twymyn arni, roedd hi’n teimlo’n llwglyd drwy’r amser ac yn tisian tân o hyd.
Sylwodd ceidwaid clên Castell Caernarfon ar hyn a dechrau poeni am Dwynwen. Roedd rhywbeth yn bod arni.
Felly, dyma nhw’n ffonio’r milfeddyg lleol a ddaeth draw i’r castell i gael golwg arni. Daeth y milfeddyg â stethosgop a mwgwd weldio gydag o (rhag ofn y tisian tanllyd) a dechreuodd archwilio’r ddraig druan.
Ar ôl bod wrthi am ychydig funudau, dyma’r milfeddyg yn stopio’n sydyn — gyda’i stethosgop yn hofran uwch bol mawr y ddraig. Rhoddodd wên lydan a thynnu’r mwgwd oddi ar ei wyneb gan ddweud: “Nid sâl ydi Dwynwen — mae hi’n cario wyau!”
Safodd Dwynwen a cheidwaid y castell mewn distawrwydd llethol am eiliad, cyn iddyn nhw ddechrau dathlu — roedden nhw mor gyffrous wrth feddwl am ddreigiau bach yn dod i’r castell!
Aeth y milfeddyg ymlaen: “Mae’n edrych yn debyg y bydd Dwynwen yn barod i ddodwy ei hwyau mewn diwrnod neu ddau. Rwy’n awgrymu gwneud nyth — ar unwaith!”
Dechreuodd Dwynwen fynd i banig. Doedd dim posib iddi ddodwy ei hwyau yn fan hyn — mor bell oddi wrth Dewi.
A mwy na hynny, doedd ganddi hi ddim digon o egni i adeiladu nyth. Gwyddai y byddai ceidwaid y castell yn cymryd wythnosau i adeiladu nyth digon mawr i ddal wyau draig!
Gallai’r ceidwaid weld fod Dwynwen dan bwysau felly dyma nhw’n awgrymu iddi ddodwy ei hwyau yng Nghastell Caerffili. Drwy wneud hynny, gallai Dewi fod yn bresennol i helpu gyda’r paratoadau ar gyfer y newydd-ddyfodiaid — o adeiladu nyth i warchod yr wyau.
Cytunodd Dwynwen ac aeth y ceidwaid cyffrous ati ar unwaith i drefnu lori fawr i yrru’r ddraig feichiog yr holl ffordd i Gaerffili.
Aeth y lori â Dwynwen ar ei thaith drwy’n nos a chysgodd hithau’n sownd yr holl ffordd — gan freuddwydio am ei dreigiau bach a gwenu wrth chwyrnu’n uchel.
Wedi cyrraedd, dringodd Dwynwen allan o’r lori ac edrych ar waliau godidog ffau Dewi.
Allai hi ddim aros i ddweud ei newyddion wrth Dewi. Dringodd dros y waliau, ymlusgodd dros y bylchfuriau gan fynd ar flaenau’i thraed i chwilio am ei chariad cennog.
Roedd Dewi’n swatio mewn tŵr ar y pryd, yn mwynhau brecwast blasus o chwilod ar dost pan glywodd sŵn traed yn dringo’r tyred.
Yn ddig fod rhywun yn torri ar draws ei frecwast, trodd ei ben — yn barod i chwythu tân ar bwy bynnag oedd yn meiddio tarfu arno ... Ond Dwynwen oedd hi!
Neidiodd mewn syndod, ei chofleidio’n dynn a gofyn beth ar y ddaear oedd hi’n ei wneud yno.
Gwenodd Dwynwen a dweud:
“Dewi — dw i angen i ti adeiladu nyth…”
Heb os nac oni bai, roedd Dewi wedi cyffroi’n lân.
Roedd ei galon gennog ddu yn gorlifo o lawenydd wrth feddwl am glywed sŵn crafangau dreigiau bach yng Nghastell Caerffili.
Cyntaf y torrodd Dwynwen y newyddion iddo, dyma Dewi yn ei swatio yn ei dŵr clyd ac yna hedfan yn uchel, yn isel, yn ôl ac ymlaen uwchben tref gysglyd Caerffili i gasglu brigau, canghennau a dail ar gyfer y nyth.
Drwy’r amser, gallai glywed Dwynwen yn tisian gyda fflachiadau o dân a gallai weld cylchoedd o fwg yn llifo allan o’r tŵr.
Gwenodd Dewi. Roedd wedi bod eisiau ei ddreigiau bach ei hun erioed ac yr oedd yn benderfynol o godi’r nyth mwyaf clyd yn y byd ar gyfer ei gywion.
Cymerodd ddiwrnod cyfan i'w adeiladu, ond wedi iddo ei orffen roedd y nyth yn edrych yn anhygoel — allai Dewi ddim aros i’w ddangos i Dwynwen.
Gan ruo a chwythu pelen dân yn uchel i’r awyr, galwodd arni i ddod i lawr o’r tŵr i weld ei gampwaith — a chafodd hi ddim o'i siomi.
I ddweud diolch, llyfodd Dewi ar ei foch — gweithred gariadus iawn ymysg dreigiau — a chan ochneidio mewn rhyddhad, swatiodd y ddau wrth ymyl y nyth a gwylio’r haul yn machlud dros Gastell Caerffili.
Roedd y creaduriaid rhamantus yn barod am eu dreigiau bach.
***
Cyrhaeddodd ceidwaid y castell i’w gwaith fel arfer y diwrnod canlynol. Roedd yn fore braf o wanwyn ac roedden nhw’n sgwrsio'n hapus gyda’i gilydd wrth ddatgloi’r gatiau mawr pren.
Ond wrth i’r drysau agor ac i nyth y dreigiau ddod i'r golwg, daeth y siarad i ben a safodd y ceidwaid mewn syndod wrth iddyn nhw weld golygfa mor odidog.
Yn y nyth roedd dau wy draig enfawr — eu lliwiau tanllyd oren, coch a melyn yn disgleirio yn yr haul.
Aeth y ceidwaid syfrdan ati i ffonio’r milfeddyg lleol ar unwaith, a daeth yno cyn pen yr awr – wedi cyffroi’n llwyr o weld cynnwys y nyth. Wedi’r cyfan, doedd wyau draig ddim wedi eu gweld yng Nghymru ers canrifoedd.
Gyda gel uwchsain a pheiriant sonograffi, aeth y milfeddyg yn hyderus at y nyth a gwylio mewn rhyfeddod wrth i Dwynwen drochi’r wyau â llif tyner o dân yn syth o’i ffroenau.
“Beth mae hi’n ei wneud?” gofynnodd un o’r ceidwaid yn nerfus.
Gwenodd y milfeddyg a dweud: “Gofalu am yr wyau, siŵr iawn. Mae wyau draig yn cael eu creu mewn fflamau wyddoch chi. Mae hi’n helpu’r cywion i dyfu!”
Ochneidiodd y ceidwaid mewn rhyddhad — roedd tisian tanllyd Dwynwen yn gwneud synnwyr o’r diwedd. Ei chorff oedd yn paratoi ei hun yn barod ar gyfer gofalu am yr wyau!
Ar ôl rhoi archwiliad llawn i’r ddarpar-fam a’i nyth, cadarnhaodd y milfeddyg fod Dwynwen a’r wyau yn berffaith iach, ac ychwanegodd:
“Gallai wythnosau, misoedd neu hyd yn oed flynyddoedd fynd heibio cyn i’r dreigiau bach gael eu geni — does neb yn gwybod faint o amser mae wyau draig yn ei gymryd i ddeor.”
Snwffiodd Dwynwen yn anfodlon. Doedd hi ddim eisiau aros am flynyddoedd i gwrdd â’i dreigiau bach!
Anwesodd y milfeddyg drwyn Dwynwen yn dyner a gofynnodd i’r ceidwaid alw arno cyntaf y bydden nhw’n gweld unrhyw symudiadau — bach neu fawr — yn yr wyau. Cytunodd y ceidwaid a chodi’u llaw wrth iddo adael y castell yn sionc ei droed.
Aeth y newyddion am wyau’r ddraig ar hyd a lled y wlad fel tân gwyllt a daeth cannoedd o bobl o bob rhan o Gymru i’w gweld — yn falch bod eu mamwlad yn dod â dreigiau bach i’r byd.
Ond wrth i’r dyddiau droi’n wythnosau, doedd dim golwg o’r dreigiau bach.
Ond un noson ym mis Mai, daeth tro ar fyd.
Roedd y ceidwaid wedi gadael y castell ar derfyn dydd ac roedd Dreigiau Cadw yn barod i fynd i’r gwely.
Fel yr oedd yn arfer gwneud adeg y machlud bob nos, aeth Dwynwen draw at y nyth i ddweud nos da wrth yr wyau.
Wrth iddi roi trefn ar ychydig o frigau yn y nyth, stopiodd a gwrando’n astud. Roedd yn siŵr ei bod yn gallu clywed rhywbeth yn symud yn y nyth. Symudodd yn nes at yr wyau a bu bron iddi lamu allan o’i chroen cennog pan welodd un ohonynt yn symud. Ac yna’r llall.
Roedd yr amser wedi dod.
Yn llawn panig, gwaeddodd ar Dewi a gwyliodd y ddau wrth i’r nyth ddechrau crynu ac i byffiau o fwg lifo allan o’r wyau coch disglair.
Roedd y tir o gwmpas y nyth yn crynu a cherrig Castell Caerffili yn ysgwyd am oriau — neu felly yr oedd yn teimlo — hyd nes, yn sydyn iawn, i’r cyfan ddod i ben.
Edrychodd Dewi a Dwynwen ar ei gilydd yn ddryslyd cyn clywed ‘CRAC’ enfawr a gweld darnau mawr o blisg yn hedfan drwy'r awyr.
Ac yna, drwy’r distawrwydd sydyn, daeth pennau dwy ddraig fach allan o’r nyth. Roedd y dreigiau bach wedi cyrraedd.
Rhuodd Dewi mewn llawenydd ac wylodd Dwynwen ddeigryn piws.
Roedd teulu Dreigiau Cadw yn gyflawn o’r diwedd.
Ychydig eiliadau ar ôl iddyn nhw gael eu geni, aeth y ddwy ddraig fach i gysgu'n drwm, drwm. Yn wir, aeth oriau heibio, ac roedd popeth yn dawel. Atseiniai’r chwyrnu ysgafn o amgylch muriau cerrig y castell. Roedd mam yn fodlon ei byd, dad yn wên o glust i glust, a cheidwaid y castell yn gyffro i gyd.
Ond wnaeth hyn ddim para’n hir.
Fel rheol, mae creaduriaid bach sydd newydd gael eu geni yn waith caled. Mae pawb yn gwybod hynny. Boed yn bobl, adar neu famaliaid — mae’n rhaid iddyn nhw gael llawer iawn o ofal! Ond mae dreigiau bach yn stori arall.
Maen nhw'n cael eu geni gyda’r gallu i gerdded a chrawcian — a hyd yn oed i chwythu peli o dân ar brydiau! Felly, fel y gallwch chi ddychmygu, fe achosodd Dylan a Cariad (sydd wedi cael eu henwi er anrhydedd i’w gwreiddiau Cymreig) bob math o ddrygioni yn y castell.
Dechreuodd y cyfan y bore ar ôl iddyn nhw gael eu geni.
Roedd Dwynwen — a oedd wedi bod yn cysgu wrth eu hymyl drwy’r nos — wedi bod yn breuddwydio am ddyfodol y ddau.
Ai dreigiau tân fydden nhw fel Dewi? Neu ddreigiau daear efallai yr un fath â hi? ’Da chi'n gweld, mae pob draig yn cael ei geni gyda phŵer — pŵer i reoli dŵr, daear, rhew neu dân.
Ac er bod dreigiau’n cymryd misoedd i ‘drawsnewid’ yn derfynol, allai Dwynwen ddim peidio â meddwl beth fyddai hanes y ddau fach yn y dyfodol.
Deffrodd Dwynwen gyda gwên, ond pan agorodd ei llygaid emrallt, gwelodd fod y nyth yn wag, a gallai glywed sŵn carreg yn taro carreg yn y pellter.
Mewn panig llwyr, galwodd ar Dewi, a oedd wedi codi ben bore i fynd i chwilio am ddail a changhennau newydd ar gyfer y nyth. Doedd dim ymateb gan Dewi, felly llamodd o amgylch y castell yn chwilio am y ddau fach.
A phan ddaeth hi o hyd iddyn nhw, mam bach roedd hi wedi gwylltio!
Gwelodd Dwynwen bentwr anferth o rwbel wedi'i guddio yn rhan uchaf y porthdy. Ac yn hofran uwch ei ben ar eu hadenydd bychain roedd Dylan a Cariad — y ddau yn brysur yn gollwng cerrig o’u cegau i lawr ar furiau’r castell islaw.
Rhuodd Dwynwen yn flin pan welodd yr olygfa – nid yn unig roedd hi’n beryglus i ddreigiau mor ifanc geisio hedfan, roedd darnau o'r castell yn hedfan i bobman ac yn chwalu’n rhacs jibidêrs.
Rhewodd y ddwy ddraig fach yn eu hunfan, yn crynu gan ofn. Ond wnaeth yr ofn o beri gofid i Dwynwen ddim para’n hir.
Yn wir, treuliodd Dewi a Dwynwen benwythnos cyfan yn rhuthro ar ôl y ddwy ddraig ddrwg a oedd yn gadael dinistr o’u hôl.
Cafodd Cariad ei dal fwy nag unwaith yn dwyn lolipop o ganolfan ymwelwyr y castell. Roedd gan y ddraig fach ddant melys, ac allai hi ddim maddau i’r melysion pinc a gwyn.
Ac wrth i Cariad sipian ei lolipop yn fodlon, allai Dwynwen ddim peidio â sylwi ar yr haul yn tywynnu’n braf ar y castell.
A’r eiliad y byddai hithau’n dweud y drefn, byddai’r nefoedd yn agor a’r glaw yn arllwys ar y castell, fel petai’n adlewyrchu anfodlonrwydd Cariad.
“Allai hi fod yn ddraig dywydd”? meddyliodd Dwynwen.
Roedd Dylan, ar y llaw arall, wedi cael ei ddal dro ar ôl tro yn gollwng ceiniogau i ffynnon hynafol y castell i geisio creu’r sblash fwyaf bosib.
Yn wir, roedd Dylan yn ymddiddori mewn dŵr.
Cafodd ei weld yn rhedeg ar ôl y gwyddau lleol tuag at y ffos. Gwelodd Dewi’r cyfan o un o’r tyrau a hedfan i lawr ar ei union i’w atal. Pan sylwodd Dylan ar ei dad yn nesáu, a hwnnw’n amlwg wedi gwylltio, plymiodd yn gelfydd i mewn i'r ffos gan symud yn sydyn ac yn chwim fel dolffin.
“Tybed ai draig ddŵr ydy Dylan?” meddyliodd Dewi, yn fwy cyffrous na blin erbyn hynny.
Ar ôl penwythnos helbulus iawn yn y castell, daeth yn bryd i Dwynwen a'r ddau fach adael.
Roedd hi’n bwriadu mynd â nhw ar daith o amgylch Cymru dros yr haf, er mwyn iddyn nhw gael dysgu am eu treftadaeth Gymreig. Roedd hi hefyd yn gobeithio y byddai’r holl deithio yn blino dipyn arnyn nhw!
Roedd Dewi wedi gobeithio cael ymuno â nhw, ond wrth gwrs, roedd yn rhaid iddo roi blaenoriaeth i'w ddyletswyddau fel Draig Caerffili. A fyddai pum munud o heddwch ddim yn ddrwg i gyd...!
Cafodd Dwynwen a’r ddwy ddraig fach ddireidus amser gwerth chweil yn teithio o amgylch Cymru — o Gastell Cas-gwent i Raglan, ac o Lys Tre-tŵr i gastell Cydweli.
Ar hyd y ffordd, cafwyd ambell awgrym arall ynghylch y doniau a fyddai gan Dylan a Cariad yn y dyfodol.
Roedd diddordeb Dylan mewn dŵr yn cynyddu bob dydd. Dydy’r rhan fwyaf o ddreigiau ddim yn hoffi dŵr, ond roedd cennau Dylan yn mynd yn sych ac yn annifyr os byddai'n mynd ddiwrnod heb nofio.
Dechreuodd allu rheoli dŵr hefyd, a chreu siapiau hardd a thonnau enfawr ar amrantiad.
Yn y cyfamser, roedd y tywydd o fewn pum milltir i Cariad yn dal i newid yn unol â’i hwyliau. A gan ei bod hi'n ddraig fach ddymunol ar y cyfan, roedd yr haul yn tueddu i ddilyn y teulu bach o amgylch Cymru.
Roedd Dwynwen wedi sylwi ar y ddau beth hyn. Ond doedd hi ddim wedi cael cadarnhad — nes iddyn nhw lanio yng Nghastell Harlech...
Wrth i’r haul fachlud, gwnaeth Dwynwen yn siŵr bod y dreigiau bach yn glyd ac yn gynnes yn eu nyth fel arfer. Yna dringodd i un o dyrau brafiaf y castell a setlo i lawr am noson o heddwch.
Roedd hi’n noson glir, a gallai Dwynwen weld cannoedd o sêr yn llenwi’r awyr. Wrth iddi edrych arnyn nhw drwy ffenestr fawr y tŵr, teimlai ei hamrantau’n disgyn dros ei llygaid wrth i flinder braf lifo drosti.
Yna, BANG! FFLACH!
Agorodd Dwynwen ei llygaid yn sydyn.
“Mellt a tharanau?”, meddyliodd. “Na, does bosib, ddim ar noson mor braf.”
“Tân gwyllt? Ym mis Awst — nage siŵr!”
Yna meddyliodd am Dylan a Cariad. Ac roedd hi’n gwybod yn iawn beth oedd yn digwydd.
Brysiodd Dwynwen at y nyth ar lawr gwaelod y castell, cyn stopio yn ei hunfan wrth iddi weld Dylan a Cariad, ei dreigiau bach del.
Roedd y ddau yn hofran yn yr awyr gyda phelydrau o olau yn amgylchynu eu cyrff bychain. Roedd y golau’n trawsnewid eu cennau meddal yn rhai cryf a chadarn. Roedd eu hadenydd, eu dannedd a’u crafangau'n mynd yn fwy ac yn fwy bob eiliad.
Roedd yr amser wedi cyrraedd. Roedden y dreigiau bach yn trawsnewid yn ddreigiau go iawn! Ac yn bwysicach na dim, fe fydden nhw’n gwybod beth fyddai eu ffawd unwaith ac am byth.
Gwyliodd Dwynwen yr arddangosfa anfarwol gyda balchder. Roedd yn chwith ganddi nad oedd Dewi yno i weld y cyfan.
Ac ar ôl yr hyn a oedd yn teimlo fel oriau, pylodd y goleuadau a daeth y ddwy ddraig fach yn ôl i'r ddaear. Edrychodd Dylan a Cariad ar ei gilydd yn llawn llawenydd.
“Draig ddŵr ydw i”, meddai Dylan.
“Draig dywydd ydw i”, meddai Cariad.