Chwedl y ddraig Gymreig
Chwedl y ddraig Gymreig
Y dianc fawr
Y rhodfa sibrydion
Ydych chi erioed wedi meddwl tybed pam mae yna ddraig goch ar faner Cymru?
Wel, mae yna lawer o chwedlau Cymreig sydd wedi’u trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth. Ond hon, hon yw chwedl y dreigiau coch a gwyn.
Amser maith, maith yn ol, roedd yna ddraig goch yn byw’n heddychlon yma yng Nghymru. Roedd popeth yn iawn nes i ddraig wen ddod un dydd ac ymosod ar y tir.
Gwrthododd y ddraig goch yn ffyrnig, a bu’r ddau greadur yn ymladd yn yr awyr uwchben y tir gwyrdd a hyfryd hwn.
Aeth y frwydr ffyrnig ymlaen ac ymlaen ac roedd rhuo’r ddwy ddraig mor uchel ac ofnadwy nes i bobl y wlad fynd yn sal; methodd y cnydau, roedd anifeiliaid yn marw, roedd menywod yn colli eu babanod.Roedd yn rhaid i rywun roi diwedd ar yr ymladd. Ac yna pwy ymddangosodd ond Lludd — Cymro eithriadol o ddewr, a ddenodd y ddwy ddraig tuag at grochan mawr a oedd yn llawn medd. Ymatebodd y dreigiau’n syth a, chyn hir, roedden nhw yfed cymaint ag y mynnent, gan ddod yn fwy a mwy meddw.
Clymodd Lludd y bwystfilod, a oedd yn ddigon tawel erbyn hyn, mewn lliain mawr o sidan, a’u claddu’n ddwfn o dan Ddinas Emrys, mynydd yn Eryri.
Yno, bu’r dreigiau yn gorwedd ynghwsg am ganrifoedd. Cafodd y tir ac iechyd yr anifeiliaid a’r bobl a oedd yn byw arno eu hadfer. Tan y diwrnod y penderfynodd y Brenin Vortigern y byddai’n adeiladu castell ar yr union fynydd hwnnw.
Bob tro y byddai muriau ei gaer fawreddog yn cael eu hadeiladu, byddai’r tir yn crynu a byddai’r muriau’n syrthio I’r llawr. Dro ar ol tro, adeiladwyd y muriau a, dro ar ol tro, bydden nhw’n syrthio.
Yn ei rwystredigaeth, gofynnodd gyngor gan ddyn doeth o’r enw Myrddin, a ddywedodd wrtho am y dreigiau a oedd wedi’ u claddu’ n ddwfn o dan y tir — ac awgrymodd efallai mai nhw oedd gwraidd y broblem.
Palodd Vortigern i lawr a rhyddhau’r dreigiau, a hedfanodd yn syth I’r awyr ac ailddechrau eu brwydr ffyrnig. Ond, y tro hwn, y ddraig goch oedd yn fuddugol a threchwyd y bwystfil gwyn. Adeiladodd Vortigern ei gastell, a dychwelodd heddwch I’r wlad.
Cafodd y chwedl honno ei hysgrifennu tua’r adeg yr oedd yr Eingl-Normaniaid yn ymosod ar Gymru. Does dim rhyfedd bod y ddraig goch wedi dod yn symbol o falchder, cenedligrwydd a gwydnwch Cymreig.
Y dianc fawr
Felly dyma ni, yn y Neuadd Fawr – ac ar y pwynt yn stori Caerffili lle aeth pethau o’I le go iawn.
Neu mewn geiriau eraill pan aeth pethauo’r chwith.
Roedd Isabella, ein Brenhines - fy Modryb, wedi bod yn Ffrainc, yn son wrth bawb faint roedd hi’n casau fy ngŵr, Hugh Despenser.
Fe wrthododd hi ddychwelyd nes bod Hugh yn cael ei ddiarddel fel cynghorydd I’r Brenin Edward.
Fe ffurfiodd hi gynghrair gyda Roger Mortimer, a oedd yn casau fy ngŵr hefyd, a dychwelodd gyda byddin i gael gwared arno drwy rym!
Roedden ni i gyd gyda’n gilydd yn Nhŵr Llundain pan glywson ni.
Roedd anhrefn llwyr yn Llundain ar ol ymosodiad y Frenhines – ffodd Hugh a’r Brenin Edward tua’r gorllewin.
Aethon nhw ar gefn ceffylau â hwd dros eu pennau er mwyn osgoi cael eu hadnabod.
Fe gyrhaeddon nhw Gas-gwent, gan obeithio hwylio am Ynys Wair, yna ymlaen i Iwerddon.
Fe arhoson nhw 5 diwrnod i’r gwynt lenwi’r hwyliau, gwnaethon nhw hyd yn oed gweddio i’r Santes Ann.
Ond heb unrhyw wynt, bu’n rhaid iddyn nhw newid eu cynlluniau – a bant a nhw i Gaerdydd.
Yn y cyfamser, roedd y Frenhines Isabella ym Mryste ac roedd hi wedi dal a dienyddio tad Hugh.
Roedd tensiwn mawr yn y wlad, roedd gan y Frenhines lawer o gefnogaeth, roedd hi’n ymddangos fel pe bai pawb yn casau fy ngŵr.
Gan geisio tynnu cyn lleied o sylw at ei hunain a phosibl, aeth y Brenin a Hugh ymlaen i Gaerffili.
Pa le gwell i geisio lloches na chaer fawr a adeiladwyd gan fy nhad’
O’r diwedd, gallai Hugh ddangos i’r Brenin y palas a greodd, a oedd yn gweddu i Frenin.
Yng Nghaerffili, gallai Hugh ddiddanu’r Brenin mewn steil, ond roedd Isabella ar eu holau.
Adeiladwyd Caerffili i wrthsefyll gwarchae, ond penderfynodd y Brenin a Hugh symud ymlaen.
Fyddwn ni byth yn gwybod pam benderfynon nhw adael diogelwch Caerffili. Fe gychwynon nhw ar eu taith i Abaty Nedd.
Ymosododd Isabella a’i byddin ar Gaerffili, a adawyd yn nwylo fy mab, Huchon, a Syr John Felton.
Tra roedd byddin y Frenhines yn ymosod ar y castell, anfonwyd grŵp i chwilio am y Brenin a Hugh.
Yn eu plith roedd meibion Llewelyn Bren, a ddienyddiwyd ar orchymyn Hugh – redden nhw eisiau dial.
Pan fethon nhw a chael cefnogaeth yng Nghastell-nedd, trodd y Brenin Edward a Hugh yn ol, gan wneud eu ffordd tuag at Gastell Llantrisant.
Roedd cymylau tywyll, twrw taranau a fflachiau o fellt yn llenwi’r awyr wrth i’r grŵp agosau.
Mewn coedwig ychydig y tu allan i Lantrisant, fe gawson nhw eu dal. Cafodd Hugh ei orymdeithio drwy’r strydoedd a chafodd ei ddienyddio’n giaidd yn Henffordd.
Fe gadwodd fy mab, Huchon, a Syr John Felton, reolaeth ar Gaerffili am 5 mis. Pan ildion nhw yn y pen draw, maddeuwyd i bawb yn y castell.
Diorseddwyd fy ewythr hoff, y Brenin, a chafodd ei garcharu yng Nghastell Berkeley. Maen nhw’n dweud ei fod wedi marw mewn ffordd erchyll yno, ei lofruddio o bosibl ar orchymyn Roger Mortimer.
A fi? Ces i fy nghadw yn Nhŵr Llundain a fy amddifadu o fy holl diroedd gan gynnwys Caerffili. Byddai pedair mlynedd yn mynd heibio cyn iddyn nhw eu dychwelyd i fi yn y pen draw.
Y rhodfa sibrydion
Oeddech chi’n gwybod bod Hugh Despenser wedi gwneud arian drwy fôr-ladrata? Roedden nhw’n ei alw’n Anghenfil y Mor.
Ssh - ddim mor uchel - mae ganddo fe dymer gwael, os bydd e’n clywed...ydychchi’n cofio pan gafodd e’ ddirwy o £10,000 gan y brenin am daro Jon Ros yn ei wylltineb? Wnaeth e’ byth talu.
Mae e’ mor farus - oeddech chi’n gwybod ei fod e’ wedi cymryd etifeddiaeth chwiorydd Eleanor oddi wrthyn nhw? Ac fe gymerodd e’ gastell ei brawd, Gilbert, yn Tonbridge oddi wrth Maud, ei weddw!
Dyw hwnna’n ddim byd - fe glywais i ei fod e’ wedi arteithio’r Arglwyddes Baret nes iddi golli ei cho’ - dim ond er mwyn ei chael hi i drosglwyddo ei thir.
Does dim rhyfedd bod e’n gallu fforddio’r holl welliannau crand hyn i’r Neuadd Fawr?
Fe wnaeth e’ bygwth llosgi boneddiges yn fyw er mwyn gwneud iddi drosglwyddo ei hiarllaethau.
Mae’n ymddwyn fel petai fe yw’r brenin - gyda’r holl byliau ymosodol yna. Fe wnaeth e’ ddienyddio Llewelyn Bren, Arglwydd Senghennydd, mewn ffordd greulon hefyd, dim ond am ei fod e’n gwrthwynebu trethi uwch.
Roedd Bren yn gynghorydd dibynadwy! Dim ond y Brenin sydd a’r awdurdod i ddienyddio!
Ydych chi wedi clywed ei bod nhw’n galw Hugh yn ŵr y Brenin!? Does dim rhyfedd bod y Frenhines yn treulio amser gyda’r bonheddwr yna, Mortimer.
Byddwn i’n dwlu petawn i’n gallu rhedeg i ffwrdd i Ffrainc pan oeddwn i’n anghytuno gyda fy ngŵr! Hei, well i ni orffen y bwyd yma cyn iddo oeri.