Skip to main content

Bwriad yr ŵyl yw i greu brwdfrydedd, ymhlith plant yn bennaf, am hanes Cymru, gan estyn cyfleoedd unigryw i ddysgu mwy am gymeriadau a straeon difyr o’r gorffennol; darganfod safleoedd o bwys hanesyddol, a dathlu hanes a threftadaeth cyfoethog Cymru. 

Cynhaliwyd yr ŵyl gyntaf ym mis Medi 2015 ar ôl i Eleri Twynog, aelod o Fwrdd yr ŵyl, weld sioe am Harri Tudur yn cael ei pherfformio, i gynulleidfa o blant oed cynradd,yng Nghastell Rhaglan. Roedd yn brofiad gwefreiddiol a blannodd hedyn syniad am ŵyl fyddai’n cael ei gynnal led led y wlad, i ddathlu hanes Cymru. 

Mae’r ŵyl yn gwmni nid am elw, a dros gyfnod o 6 wythnos, ym mis Medi a Hydref bob blwyddyn, daw rhai o safleoedd treftadaeth Cymru yn fyw gyda perfformiadau; gweithdai; sgyrsiau ac arddangosfeydd. Yn ogystal â’r digwyddiadau byw, cynhelir nifer o sesiynnau ychwaengol ar lein gan ymestyn apêl a chyrhaeddiad yr ŵyl. Ers y cychwyn, gyda chefnogaeth nifer fawr o bartneriaid, mae’r ŵyl wedi cydlynnu rhai cannoedd o ddigwyddiadau gyda miloedd o blant wedi cymryd rhan.

Mae Tîm Dysgu Gydol Oes Cadw wedi bod yn cefnogi’r ŵyl hon yn frwd ers blynyddoedd lawer, hyd yn oed yn ystod anawsterau a chyfyngiadau’r pandemig. Rydym wedi gweld ein hunain yr holl ddysgu llawn mwynhad sy’n digwydd drwy’r profiadau hudolus hyn ar ein safleoedd neilltuol ledled Cymru, lle digwyddodd yr hanes mewn gwirionedd.

AMDANOM | Gwyl Hanes Cymru

Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig

 

Nod Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yw annog pobl ifanc, o bob oed, cefndir a gallu, i ymddiddori fwyfwy yn eu treftadaeth Gymreig (Cynefin a Stori Cymru), i ddarganfod rhagor am gyfoeth ac amrywiaeth eu treftadaeth ac i rannu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’u cymunedau eu hunain â’r byd yn ehangach. 

Mae’r fenter yn cynnal cystadleuaeth flynyddol ar gyfer prosiectau treftadaeth mewn ysgolion, gan gefnogi a meithrin datblygu sgiliau trawsgwricwlaidd trwy astudio hanes a diwylliant Cymru. Mae’r cwricwlwm newydd yn darparu cyfleoedd cyfoethog i archwilio’r dreftadaeth Gymreig a chysyniad cynefin gyda dysgwyr ym mhob lleoliad yng Nghymru.

Dehonglir y gair ‘treftadaeth’ yn y modd ehangaf, i gynnwys pobl a’u hanes cymdeithasol, crefydd, traddodiadau a diwylliant; byd gwaith, amaethyddiaeth, diwydiant, cyllid, masnach, gwyddoniaeth, technoleg, celfyddyd a chwaraeon.  

Gall y prosiectau hyn fod yn rhan o’r gwaith cwricwlwm-ganolog arferol yn amserlen yr ysgol, neu gallant adlewyrchu gwaith a wneir gan yr ysgol i goffáu digwyddiad, person neu adeilad lleol. Bydd y gwaith prosiect a wneir ar gyfer y gystadleuaeth hon yn ateb llawer o ofynion hanes y cwricwlwm newydd, Cwricwlwm i Gymru. Mae’r prosiectau hyn yn gofyn am ymchwil, casglu defnyddiau, dadansoddi a gwerthuso, ynghyd â sgiliau cyfathrebu.

Gellir eu cyflwyno trwy arddangosfeydd, perfformiadau, adferiadau a dulliau eraill sy’n cyfrannu at dreftadaeth, neu trwy gofnodion print neu ar ffurf electronig. Anogir ysgolion i rannu eu darganfyddiadau. Bydd beirniaid yn asesu’r prosiectau, gan ystyried y lefel briodol o safbwynt llythrennedd, rhifedd a sgiliau technoleg gwybodaeth.

MYDG yn cynnal cystadleuaeth flynyddol ar gyfer prosiectau treftadaeth yn ysgolion Cymru gan gynnig nifer o wobrau ariannol, gyda hyd at £1000 i’r enillwyr.

HAFAN | WHSI