Ceidwaid Ifanc Cymru – Cymerwch ran!
Bydd siâp eich grŵp a'ch gweithgaredd Ceidwaid Ifanc yn dibynnu arnoch chi, eich anghenion a'ch dyheadau. P'un a ydych chi'n seiliedig ar grŵp craidd, clwb amser cinio, grŵp blwyddyn neu ysgol gyfan / adran, chi sydd i benderfynu.
Edrychwch ar ein tudalen syniadau prosiect i gychwyn. Nid yw'n gynhwysfawr o gwbl a bydd yn tyfu wrth i grwpiau Ceidwaid Ifanc rannu eu gweithgareddau. Ond maen nhw wedi cael eu profi sawl tro.
Ydych chi'n barod i ddechrau?
Mae croeso i chi gysylltu â ni drwy Cadw.education@gov.cymru ar unrhyw adeg, i ddechrau trafodaeth am Geidwaid Ifanc.
Sylwch nad oes unrhyw gyllid penodol yn gysylltiedig â'r cynllun Ceidwad Ifanc. Ond gall Addysg Cadw gynorthwyo neu alw i mewn eraill i ychwanegu gwerth lle y bo'n ymarferol ac yn bosibl i gefnogi eich gweithgaredd.
Dewis Eich Safle
Dechreuwch trwy ddewis eich safle.
Ymchwiliwch i'ch henebion lleol fel prosiect ysgol/grŵp: Dewch o hyd i'ch heneb hanesyddol agosaf/mwyaf diddorol – chi biau'r dewis, gallai fod yn gastell, neu gallai fod yn gylch cerrig!
Mae Ceidwaid Ifanc Cymru wedi'i gynllunio ar gyfer ymgysylltu / meithrin perthynas gyda'n safleoedd Cadw. Yn ddelfrydol safle wedi'i staffio, os oes gennych un gerllaw - gan y bydd ein ceidwaid wrth law i gysylltu gyda chi. Fel arall, gallwch ddewis un o'n safleoedd heb staff. Bydd angen dull gwahanol o weithredu mewn safle o’r fath, ond bydd tîm Addysg Cadw yn gallu eich arwain.
Dilynwch y dolenni hyn i ddod o hyd i henebion gwarchodedig gerllaw! Gwnewch restr o'r holl henebion hanesyddol rydych chi wedi'u darganfod a chael trafodaeth dosbarth am bob math o heneb: Pa un yw'r agosaf, mwyaf, hynaf?
- Dod o hyd i rywle i ymweld
- Cof Cymru - Asedau Hanesyddol Cenedlaethol Cymru, gwasanaeth ar-lein sy'n dangos darluniau a disgrifiadau cofnodion cysylltiedig o Asedau Hanesyddol Dynodedig yng Nghymru. Nid yw pob ased hanesyddol ar ein map, dim ond y rhai sydd â statws Heneb Gofrestredig Henebion Cofrestredig.
- Archwilio - cronfa ddata Cymru gyfan o wybodaeth archaeolegol a hanesyddol. Dyma lawer o safleoedd hanesyddol cyfoethog ac amrywiol yn y dirwedd y gallwch ddarganfod ac ymchwilio iddi
- Coflein - catalog ar-lein o archeoleg, adeiladau, treftadaeth ddiwydiannol a morwrol yng Nghymru
Cofiwch fod llawer o henebion hanesyddol ar dir preifat, felly mae'n bwysig nodi pa rai, oherwydd lle mae hynny'n berthnasol, byddai angen i chi gael caniatâd y perchennog i fynd ar y tir hwnnw a chynnal gweithgareddau. Efallai y bydd hyn yn canolbwyntio eich meddwl. Yn ddelfrydol, dewch o hyd i safle y gall yr ysgol ymweld â hi am ddim.
Dewiswch un sy'n gweddu orau i anghenion eich ysgol/grwpiau. Ar ôl i chi ddod o hyd i'ch heneb a chael unrhyw ganiatâd sydd ei hangen, gallwch drefnu taith dysgwr i'r heneb hanesyddol a thanio'ch dychymyg. Os yw eich safle o ddewis yn safle Cadw, ewch i
Ymweliadau Addysg | Cadw (llyw.cymru)
Nawr yw'r amser i gofrestru i fod yn Geidwaid Ifanc