Dealltwriaeth o Adeiladau Traddodiadol (cyn 1919) a Hanesyddol ar gyfer Cyrsiau Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Bydd yr adnodd addysgu hwn yn helpu unrhyw un sy’n addysgu dealltwriaeth o adeiladau traddodiadol (cyn 1919) fel rhan o gyrsiau a chymwysterau adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.
Cafodd ei baratoi ar gyfer athrawon, darlithwyr adeiladu ac aseswyr mewn ysgolion, colegau addysg bellach a darparwyr hyfforddiant annibynnol.
Cafodd ei ysgrifennu fel cyflwyniad i adeiladau traddodiadol (cyn 1919) a hanesyddol ac mae’n cyflwyno terminoleg a dulliau allweddol.
Bydd yn ddefnyddiol i ddysgwyr a fydd yn gweithio ar bob math o adeiladau sy’n bodoli’n barod.
Mae mwy o wybodaeth a dolenni i adnoddau defnyddiol ar yrfaoedd yn y sector adeiladu treftadaeth yn yr adran Dysgu mwy ynghyd ag opsiynau ar gyfer astudio a hyfforddiant pellach.