Skip to main content
Castell Dinefwr
Wedi ei gyhoeddi

Ddydd Mawrth, 7 Rhagfyr, fe groesawodd Cadw a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol aelodau o’r grŵp Oasis – elusen o Gaerdydd sy’n cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches – i fwynhau diwrnod allan yn crwydro ystâd Dinefwr. Bu’r grŵp hefyd yn dysgu sgiliau ffotograffiaeth newydd.

Dechreuodd yr ymweliad gyda thaith dywys o amgylch Tŷ Newton, plasty o’r 17eg ganrif yng nghofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a sgwrs am yr heriau o warchod tŷ hanesyddol.

Yna, cafwyd cyflwyniad i ffotograffiaeth cyn i’r grŵp fentro i’r awyr agored i grwydo’r parc i ymarfer eu sgiliau ffotograffiaeth newydd.

Photographers group together to photograph scenes

Dringwyd wedyn i fyny i Gastell Dinefwr (sydd dan ofal Cadw) lle cafodd y grŵp ei wobrwyo â golygfa hardd – perffaith ar gyfer llun – dros ddyffryn Tywi lle gwnaethon nhw hefyd ddysgu am yr Arglwydd Rhys, rheolwr hen deyrnas y Deheubarth a sylfaenydd Castell Dinefwr.

view out over Tywi valley from Dinefwr Castle wall-walk

Mae’r ymweliad yn un o nifer o ddiwrnodau profiad a gynigir gan Cadw i grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli, wrth iddyn nhw weithio i gefnogi elfen allweddol o weledigaeth y sefydliad:

‘Cymru lle mae pawb yn gofalu am leoedd hanesyddol, yn eu deall a’u rhannu.’

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch chi neu’ch grŵp gymryd rhan, cysylltwch â: Cadw.Education@llyw.cymru


Elusen yw Oasis a’i nod a’i gweledigaeth yw helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i ddod yn rhan o’u cymunedau lleol.

Mae’r grŵp yn rhoi cymorth i tua 100-150 o ymwelwyr o bob cwr o’r byd bob dydd, gan gynnwys pobl o Iran, Irac, Affganistan, Sudan, El Salvador a’r Traeth Ifori ymhlith llawer o wledydd eraill.

Dysgwch fwy am Oasis, gan gynnwys sut y gallwch gefnogi’r elusen a chymryd rhan yn ei gweithgarwch!

 

Dilynwch Cadw ar y cyfryngau cymdeithasol: Facebook @CadwCymru | Twitter @cadwcymru