Saint neu Bechaduriaid?
Wrth ystyried sut rydym yn deall ac yn ymateb i hanes, anaml iawn y mae'n gwestiwn syml i'w ateb.
Pan daflodd protestwyr y cerflun o Edward Colston, y masnachwr caethweision, i harbwr Bryste yn 2020, roedd yn dangos y gall fod gan henebion ystyron pwerus. I deuluoedd Bryste sydd â hynafiaid a gafodd eu caethiwo yn Affrica a'u masnachu i India'r Gorllewin, roedd cerflun Colston yn teimlo fel sarhad. Ni wnaeth blynyddoedd o drafod ynghylch rhoi plac o dan y cerflun i egluro gorffennol Colston ddwyn ffrwyth, a daeth y rhwystredigaeth i binacl yn y pen draw.
Teulu o flaen gweddillion y plinth ym Mryste lle’r oedd cerflun Edward Colston cyn ei ddymchwel. © Adrian Sherratt / Alamy Stock Photo.
I lawer ohonom, nid yw cerfluniau, enwau strydoedd ac adeiladau cyhoeddus sy'n coffáu ffigurau hanesyddol yn fawr mwy na nodweddion yn y cefndir. Os byddwn yn eu hystyried o gwbl, rydym yn eu gweld fel gweddillion gorffennol pell, yn hytrach na chofebion i bobl sy'n gyfrifol am weithredoedd creulon ac annynol. Mae'r dicter a ffrwydrodd ynghylch Colston yn dangos bod angen i ni gydnabod ein hanes cymhleth a chanfod ffyrdd newydd o'i ddeall a'i gynrychioli.
Cymru a chaethwasiaeth
Mae masnach caethweision ar draws yr Iwerydd yn yr 16eg-19eg ganrif, lle cafodd poblogaethau cyfan eu gorfodi o'u cartrefi a'u masnachu fel nwyddau, yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol bellach fel trosedd yn erbyn dynoliaeth. Ni wnaeth Cymru sefyll yn gadarn yn erbyn y cam-drin hwn ar y pryd. Fe wnaeth morwyr a buddsoddwyr o Gymru gymryd rhan yn y fasnach caethweision a buddsoddodd Cymry mewn planhigfeydd lle'r oedd caethweision yn gweithio. Roedd busnesau a diwydiannau Cymru yn gwneud brethyn, copr a haearn ar gyfer marchnadoedd a oedd yn ddibynnol ar gaethwasiaeth yn Affrica ac Ynysoedd y Caribî, ac roedd defnyddwyr Cymru yn prynu tybaco, coffi a siwgr a oedd wedi'i dyfu gan bobl a oedd wedi'u caethiwo.
Efallai ei bod anodd osgoi cymryd rhan yn yr economïau a grëwyd gan gaethwasiaeth a gwladychiaeth, ond mae'n bwysig archwilio'r ffordd y mae rhai o'r bobl sy'n gyfrifol yn uniongyrchol yn cael eu coffáu.
Straeon cymhleth
Mae cerfluniau'n tueddu i wneud pobl yn arwyr, ond nid yw’n ddefnyddiol meddwl mewn termau absoliwt am arwyr a dihirod, saint a phechaduriaid bob amser. Gall agweddau cymdeithasol a safbwyntiau cyffredin newid yn aruthrol dros amser, ac mae gan lawer o ffigurau hanes cymhleth sydd angen ei ystyried yn ofalus. Efallai y bydd rhai yn cael eu hystyried gyda mwy o gydymdeimlad nag eraill maes o law.
Er enghraifft, roedd Frances Batty Shand, sylfaenydd Sefydliad y Deillion Caerdydd yn ddyngarwr a menyw o liw o Jamaica – yn ogystal â rhywun a elwodd o blanhigfeydd a oedd yn cael eu cynnal drwy lafur caethweision. Roedd rhai pobl yn amddiffyn buddion India’r Gorllewin ac yn cefnogi rhyddfreinio, gan gynnwys y prif weinidogion Wellington a Gladstone sydd wedi'u coffáu'n eang.
Un achos heriol yw Robert Owen, sy'n cael ei gofio, yn gwbl gyfiawn, am ei syniadau arloesol am weithio. Er ei fod yn ceisio gwell amodau ar gyfer gweithwyr Prydain, awgrymodd y byddai pobl a oedd wedi'u caethiwo’n well eu byd heb gael eu rhyddfreinio. Mae'n dangos y gall meddylwyr blaengar gael eu dylanwadu gan safonau eu hoes hyd yn oed.
Cerflun o Robert Owen yn y Drenewydd, Powys. © Powys Photo / Alamy Stock Photo.
Edrych ymhellach
Er mwyn deall yn well sut caiff hanes cymhleth Cymru ei gynrychioli heddiw, ym mis Gorffennaf 2020 comisiynodd y Prif Weinidog archwiliad o gofebion cyhoeddus, enwau strydoedd ac adeiladau sy'n gysylltiedig â'r fasnach caethweision a'r Ymerodraeth Brydeinig. Mae'n rhestru placiau, cerfluniau a chofebau eraill sy'n coffáu ffigurau hanesyddol sydd â chysylltiadau posibl â chaethwasiaeth.
Mewn cymhariaeth, darganfu'r archwiliad saith achos yn unig lle'r oedd pobl o dreftadaeth Ddu yn cael eu coffáu mewn naw lleoliad ar wahân, gan gynnwys placiau i Paul Robeson a Ffordd Mandela ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae pobl o dreftadaeth Ddu wedi byw yng Nghymru ers 2,000 o flynyddoedd ac wedi gwneud cyfraniadau nodedig ym maes gwleidyddiaeth, addysg, chwaraeon, y celfyddydau, iechyd a meysydd eraill, felly mae cyfle i goffáu llawer mwy o unigolion ysbrydoledig.
Dathlu hanes Pobl Dduon
Mae rhai enghreifftiau'n cynnwys Eddie Parris, y pêl-droediwr Du cyntaf i gael cap dros Gymru a hynny ym 1931, Abdulrahim Abby Farah, y diplomydd o'r Barri a sefydlodd ysbyty ar gyfer dioddefwyr ffrwydron tir yn Somalia, neu Frederick Douglass, yr areithiwr gwrth-gaethwasiaeth a ddihangodd rhag caethwasiaeth yn America ac a fu'n annerch cynulleidfa fawr yn Neuadd y Dref Wrecsam ym 1846.
Frederick Douglass. © Major Acquisitions Centennial Endowment.
Mae gwaith i gydnabod yr unigolion hyn, a llawer mwy tebyg iddynt, yn rhan o'r gwaith o ail-werthuso ein gorffennol yn ehangach. Mae coffáu yn un rhan yn unig o hanes hir o newid agweddau ond yn diriogaeth gyfoethog i gofio, herio ac esblygu hefyd.
(Dyma fersiwn wedi'i olygu o erthygl a ymddangosodd yn flaenorol yng nghylchgrawn Etifeddiaeth y Cymry aelodau Cadw).