Skip to main content

Er bod hanes Cymru yn frith o fenywod nodedig, yn aml iawn mae’n anodd dod o hyd i wybodaeth amdanynt.

Yn hanesyddol, mae’r broses hon wedi’i llesteirio gan ragdybiaethau hirhoedlog am rôl y rhywiau, a gafodd effaith enfawr ar yr hyn a ysgrifennwyd gan academyddion, archeolegwyr a haneswyr.

Mae’r rhan fwyaf ohonom yn ymwybodol o fudiad enwog y Swffragetiaid a brwydr menywod am gydraddoldeb yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, ac roedd llawer o fenywod o Gymru yn rhan o’r ymgyrch hon. Yn y pen draw, wrth gwrs, enillodd menywod yr hawl i bleidleisio, ac mae deddfau dilynol wedi sicrhau hawliau cyfartal – mewn theori, beth bynnag. Ond weithiau mae’n cymryd blynyddoedd maith cyn i gymdeithas dderbyn newid yn llawn, yn enwedig pan fydd agweddau a syniadau sydd wedi’u hen sefydlu yn cael eu herio.

Margaret Haig Thomas campaigning in Newport

Margaret Haig Thomas yn ymgyrchu yng Nghasnewydd, ddechrau'r 1900au. © Amgueddfa Cymru. Casgliad y Werin Cymru.

Rydym yn awyddus i adrodd hanes rhai o’r menywod hyn, o’r rhai cynharaf i’r rhai mwy diweddar. Rydym eisiau taflu goleuni ar rai o’r menywod rhyfeddol a oedd yn fodlon herio’r drefn, ac ar rai o’r lleoedd sy’n gysylltiedig â nhw. Yn aml iawn, roedd y menywod hyn yn brwydro yn erbyn y sefydliad, gan wynebu anghymeradwyaeth cymdeithas a’r posibilrwydd o golli eu cartrefi, eu hincwm ac o ddieithrio eu teuluoedd eu hunain.

Mae yna lawer o leoedd sy’n gysylltiedig â hanes menywod – dyma ambell un i’ch rhoi chi ar ben ffordd. Faint yn rhagor allwch chi feddwl amdanyn nhw?

Y neuadd sydd ynghlwm wrth y tollty yn Llanfairpwll, Ynys Môn – lleoliad Sefydliad y Merched cyntaf Prydain, a sefydlwyd ym 1915 gyda’r nod o gynhyrchu bwyd ar gyfer y rhyfel.

Mae mynwent Eglwys Sant Crannog, Llangrannog, yn cynnwys cofeb i Sarah Jane Rees, 1839-1916. Fe greodd Sarah hanes, nid yn unig trwy weithio ar y môr gyda’i thad, ond trwy gymhwyso fel prif forwr. Roedd hi’n brifathrawes ysgol erbyn iddi droi’n 21 oed, a bu’n addysgu sgiliau mordwyo i forwyr lleol. Roedd wrth ei bodd yn ysgrifennu, a hi oedd y fenyw gyntaf i ennill gwobr am farddoniaeth yn yr Eisteddfod, gan ysgrifennu o dan yr enw ‘Cranogwen’. Aeth ymlaen i olygu cylchgrawn Cymraeg i fenywod. Bu Cranogwen yn byw’n agored gyda’i phartner, Jane Thomas, yn ystod 20 mlynedd olaf ei bywyd.

Black and white photo of Sarah Jane Rees in Victorian dress

Sarah Jane Rees © Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Casgliad y Werin Cymru.

Os ydych yn chwilio am ystafell astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae’n bosibl y byddwch yn dod o hyd i Ystafell Iris de Freitas. Cafodd yr ystafell hon ei henwi ar ôl Iris yn 2016, ar ôl i’w hanes ddod i’r amlwg. Ganwyd Iris de Freitas yn Guiana Brydeinig (Guyana erbyn hyn), ac fe ddaeth i’r brifysgol i astudio ym 1918. Astudiodd fotaneg, Lladin a’r gyfraith, gan ennill gradd BA ym 1922 a gradd LLB (Baglor yn y Gyfraith) ym 1927. Pan ddychwelodd i’r Caribî wedyn, hi oedd y fenyw gyntaf i weithio ym maes y gyfraith yno, a’r fenyw gyntaf i fod yn erlynydd mewn achos llofruddiaeth.

Cadw yn bartneriaid gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol 

Gwyliwch un o’r 12 stori o Fynwent Cathays a wnaed gan Gwmni Theatr A48

GWELEDIGAETH I’R DEILLION