Dewch i ddarganfod Dylanwad Menywod ar Hanes Cymru
Pedwar adeilad rhestredig sy’n llawn dop o atgofion o rymuso menywod
Wrth i Gymru a'r byd ehangach ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (08 Mawrth), yn Cadw rydym ni wedi treulio amser yn myfyrio ar y ffigurau benywaidd y tu ôl i'n henebion hanesyddol.
Dyma bedwar adeilad rhestredig sydd wedi chwarae rhan yn hanes benywaidd Cymru...
- Pencadlys papur newydd Swffragetiaid Cymru, yr Arglwyddes Rhondda
Roedd Margaret Haig Thomas, a elwir hefyd yn Arglwyddes Rhondda (1883-1958), yn aelod allweddol o'r mudiad dros hawliau pleidleisio menywod — ac yn berchennog papur newydd The Journal of Commerce yng Nghaerdydd.
Pencadlys y papur newydd oedd 10 Lôn y Felin yng nghanol dinas Caerdydd — sydd bellach yn gartref i fwyty Sri Lancaidd y Coconut Tree. Rhestrwyd yr adeilad Fictoraidd hwyr ym 1999 i gydnabod ei statws fel eiddo masnachol ar ochr y gamlas a'i gysylltiad hanesyddol â'r Swffragetiaid enwocaf o Gymru.
Fel perchennog busnes ac aelod o deulu diwydiannol cyfoethog, roedd yr Arglwyddes Rhondda yn gallu gwneud cyfraniadau ariannol sylweddol i'r frwydr dros gydraddoldeb menywod yng Nghymru — ond roedd hi'n ymgyrchydd ei hun hefyd a threuliodd beth amser yn y carchar am ei gweithgareddau fel Swffraget. Trefnodd gyfarfodydd cyhoeddus ar draws de Cymru, aeth ar orymdeithiau a hyd yn oed brotestio drwy neidio ar fwrdd rhedeg car y Prif Weinidog HH Asquith.
Yn 2019 roedd yr Arglwyddes Rhondda ar y rhestr fer o fenywod i'w coffáu gan gerflun y tu allan i Orsaf Ganolog Caerdydd, er iddi golli’r bleidlais gyhoeddus i addysgwraig enwog a phrifathrawes ddu gyntaf Cymru, Betty Campbell (1934-2017) — sy'n ymddangos yn llyfr hanes ffeministaidd Cadw, Menywod Mentrus Cymru.
Cydnabyddwyd fel adeilad rhestredig Gradd II yn: Ebrill 1999
- Hostel Byddin Tir y Menywod yn Sir y Fflint
Ffurfiwyd Byddin Tir y Menywod (WLA) yn 1939, ar ôl dechrau’r Ail Ryfel Byd a'r angen dilynol i gynyddu cynhyrchiant bwyd domestig.
Roedd aelodau o'r WLA naill ai'n cael eu lletya’n lleol neu'n cael llety mewn ysgolion, adeiladau preifat neu hosteli pwrpasol — fel yr adeilad sydd bellach yn rhestredig Gradd II yng Ngwlad-y-Môr, sy'n enghraifft ryfeddol o brin o'i fath.
Mae'r hostel sydd bellach yn wag yn cael ei ystyried yn 'adeilad mewn perygl' — ond yn ei ddydd, roedd yn ganolbwynt gweithgarwch prysur. Cafodd ei ddylunio ym mis Gorffennaf 1942 gan gwmni pensaernïaeth F Roberts o'r Wyddgrug, a gweithiodd trigolion WLA yr adeilad yn ddiflino i gadw Sir y Fflint a Chymru ehangach wedi’u bwydo yn ystod blynyddoedd olaf y rhyfel.
Cydnabyddwyd fel adeilad rhestredig Gradd II yn: Chwefror 2010
- Brynbella — cartref yr awdures Sioraidd, Hester Lynch Piozzi
Cyhoeddodd yr awdures ac etifedd Cymreig Ystâd Bachygraig, Hester Lynch Piozzi (1741-1821), wyth llyfr yn ystod ei hoes — gan gynnwys ei chyfrol am hanes y byd, Retrospection.
Fe'i cyhoeddwyd yn 1801, ac roedd yn cynrychioli'r ymgais gyntaf gan fenyw ym Mhrydain i ysgrifennu hanes y byd — ac o'r herwydd, ymosodwyd yn helaeth arno gan rai a deimlai mai dynion mawr sy’n creu hanes ac mai dynion yn unig a allai ysgrifennu amdano.
Mae'n debyg bod Hester yn fwyaf adnabyddus am ei chyfeillgarwch agos â (a’i bywgraffiad o) Dr Samuel Johnson, awdur y Dictionary of the English Language (1755). Fodd bynnag, ffraeodd y ffrindiau ar ôl i Hester (a anwyd yn Hester Lynch Salusbury ac a adwaenid yn ddiweddarach fel Hester Thrale, yn ystod y blynyddoedd a dreuliodd yn briod â’r AS Henry Thrale) briodi ei hail ŵr, Gabriele Mario Piozzi — athro cerdd Eidalaidd y teimlai Dr Johnson oedd islaw statws cymdeithasol Hester.
A hithau dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad, adeiladodd Hester gartref i’w rannu gyda Gabriele — eiddo trawiadol, tri llawr wedi swatio ym mhentref bach Tremeirchion, Sir Ddinbych. Wedi'i enwi’n Brynbella — gair hybrid Eidaleg/Cymraeg sy'n golygu "bryn hardd" — credir i du mewn y cartref gael ei ddylunio gan artist addurniadol enwog o’r cyfnod, Michelangelo Pergolesi.
Erbyn hyn, mae'r eiddo enfawr yn Radd II rhestredig gan Cadw, ac mae hyd yn oed yn cynnwys cilfach ar gyfer organ siambr Piozzi, gyda simnai sy’n cynnwys addurniadau offerynnau cerdd.
Cydnabyddwyd fel adeilad rhestredig Gradd II* yn: Medi 1951
© Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Parth Cyhoeddus, trwy Wikimedia Commons.
- Adfeilion Ystâd Llanofer — cartref eicon diwylliannol Cymreig
Mae Augusta Hall, neu’r Arglwyddes Llanofer (1802-1896), yn fwyaf adnabyddus am ei rôl yn gwneud gwisg draddodiadol merched Cymru yn boblogaidd — ond nid dyna oedd ei hunig gyfraniad i'n diwylliant cenedlaethol.
Ganed hi’n Augusta Waddington, etifeddodd ystâd fawr Llanofer yn Sir Fynwy, a phriododd Benjamin Hall, y mae 'Big Ben' yn Llundain wedi’i enwi ar ei ôl. Dysgodd Gymraeg fel ail iaith a gwnaeth ei chartref yn Llanofer yn ganolfan ar gyfer diwylliant Cymru — gan ei ddefnyddio fel canolfan i noddi Eisteddfodau; cefnogi beirdd ac ysgolheigion; a chyhoeddi llyfrau a chylchgronau yn Gymraeg.
O ganlyniad, cafodd Augusta ei gwawdio gan ei chyfoedion. Roedd uchelwyr Cymreig a Seisnig y cyfnod yn gweld yr iaith a'r diwylliant Cymraeg fel melltith ar y wlad — gyda dosbarthiadau uchaf ac isaf Cymru wedi'u rhannu gan iaith a chrefydd.
Yr ateb oedd mwy a mwy o addysg Saesneg, fel yr argymhellwyd gan y 'Llyfrau Gleision' yn 1847 — ac amryw o gynlluniau eraill a gynlluniwyd i ddileu presenoldeb y Gymraeg yng Nghymru. Yn yr hinsawdd hon, roedd yr Arglwyddes Llanofer yn un o ychydig iawn o leisiau anghytûn a helpodd i ddiogelu traddodiadau llenyddol a diwylliannol Cymru drwy'r cyfnod anodd hwn.
Ni ellir gwadu rhan Augusta wrth gadw iaith a hunaniaeth genedlaethol Cymru sydd bellach yn ffynnu — gwnaeth safle Tŷ Llanofer, canolbwynt ei gweithgareddau, yn lle arbennig iawn. Yn anffodus, dymchwelwyd yr eiddo yn 1935, a'r cyfan sydd wedi goroesi yw bloc stablau sy’n adfeilio, rhai adeiladau rhestredig eraill yr ystâd a Pharc Llanofer, sef Parc Cofrestredig a gardd a ddynodwyd gan Cadw.
Cydnabyddwyd fel adeilad rhestredig Gradd II yn: Rhagfyr 2005