Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Mae Cadw yn cyflwyno’r Diwrnod Rhyngwladol i Fenywod hwn (8 Mawrth) i ddathlu darn 'anghofiedig' o hanes Cymru — stori Negesydd y Gwasanaeth Tiriogaethol Cynorthwyol (ATS), Mollie Davies.

 Cerflun rhestredig gradd II Mollie Davies grade II listed statue

Cofeb i Mollie Davies yn Eglwys Crist, Garnant. Cydnabyddiaeth delwedd: Jonathan Ware

Y ferch ifanc 19 oed a anwyd ym mhentref glofaol Garnant, Sir Gaerfyrddin, oedd wrth ei bodd â chwaraeon modur, oedd y fenyw gyntaf o'r ATS i golli ei bywyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd — ac eto anaml yr adroddir ei stori.

Mae adrodd hanes Mollie yn rhan o ymdrech barhaus Cadw i ddatgelu a dathlu straeon menywod o orffennol Cymru — cenhadaeth a ddechreuwyd gyda rhyddhau ei lyfr hanes ffeministaidd cyntaf i blant y llynedd, Menywod Mentrus Cymru.

Ar ôl gadael cartref yn llawn dewrder i ymuno â'r 67fed Gatrawd Chwilolau (Gymreig) yng Nghaerdydd yn 1939, daliodd Davies niwmonia tra oedd ar ddyletswydd a bu farw yn 1940 —fisoedd yn unig cyn ei hugeinfed pen-blwydd.

Wrth wasanaethu, Mollie oedd yn gyfrifol am drosglwyddo gwybodaeth rhwng batris chwilolau a swyddogion pe bai cyrch awyr yn ardal Caerdydd.

Heddiw, saif cerflun chwe throedfedd, rhestredig Gradd II yn Eglwys Crist yn Garnant, er cof am Davies ac i ddathlu ei hymroddiad i Brydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Cafodd y gofeb ei chomisiynu gan ei mam a'i thad, Handel a Miriam Davies, a’i rhestru’n heneb gan Cadw ym mis Ionawr 1998. Fe'i cydnabyddir fel darlun cerflun anarferol o fenyw wedi’i rhamanteiddio mewn gwisg filwrol — rhywbeth oedd fel arfer yn cael ei ddefnyddio ar gyfer meirwon milwrol gwrywaidd yn unig — sy’n ei gwneud yn enghraifft brin, gorfforol o rôl weithredol menyw mewn rhyfeloedd yn yr ugeinfed ganrif.

Mae Victoria Ware yn cofio atgofion plentyndod ei diweddar dad-cu o Mollie. Dywedodd:

“Roedd fy Nhad-cu, Freddy, yn nabod Mollie fel ffrind gorau ei chwaer a’m diweddar fodryb, Betty. Byddai’n aml yn adrodd straeon wrtha i am Anti Betty a Mollie fel merched ifanc — roedden nhw fwy neu lai’n byw a bod gyda’i gilydd. 

“O ystyried mai’r pellaf roedden nhw wedi teithio cyn y rhyfel oedd Abertawe neu Gaerfyrddin, rhaid bod symudiad Mollie i Gaerdydd i ymuno â’r ATS a’r 67fed Gatrawd Chwilolau (Gymreig) wedi teimlo fel dechrau antur fawr, i wasanaethu ei gwlad. 

“Roedd gan ei theulu gariad ac angerdd at chwaraeon modur, ac mae’n debygol bod hyn wedi deillio o’i thad, Handel, a oedd yn fecanig cefnog a fu gynt yn gwasanaethu ar y Ffrynt Gorllewinol cyn dechrau rasio yn Rasys TT Cymru ym Mhentywyn. Yn ddiweddarach fe’i gwnaed yn Llywydd Clwb Moduron Abertawe.

“Felly, y gred yw bod Mollie wedi derbyn ei sgiliau trin gan ei rhieni, a’i helpodd i gymhwyso’n gyflym fel negesydd benywaidd ar adeg pan oedd galw mawr am sgiliau o’r fath.”

Gyda diddordeb teuluol ym mywyd Ms Davies, mae brawd Victoria a’r hanesydd milwrol, Jonathan Ware, wedi rhannu ei syniadau ar ei hetifeddiaeth a pham ei fod yn teimlo ei bod yn haeddu lle mwy amlwg yn llyfrau hanes Cymru:

Dywedodd:

"Chwaraeodd menywod o bob cwr o Gymru ran ryfeddol yn yr Ail Ryfel Byd. Mae'n wych bod Cadw yn hyrwyddo stori Mollie Davies, gan helpu i dynnu sylw at y maes hwn sy'n aml yn fud, wrth i'w hanes syfrdanol huno’n dawel ym mhob pentref, tref a dinas — yn ysu i gael ei ailddarganfod gan genhedlaeth newydd.

"Mae'n drasiedi na ellir ei gwadu bod cymeriad mor ddisglair wedi marw mor ifanc, gan adael gwagle i'm hen fodryb, Betty. Fodd bynnag, mae bywyd Mollie yn tynnu sylw at y dewrder, y penderfyniad, yr hunanaberth a'r agwedd bositif a ddangoswyd dro ar ôl tro gan aelodau arloesol y Gwasanaeth Tiriogaethol Cynorthwyol, er gwaethaf adfyd enfawr.

"Mae cofeb ramantus syfrdanol o'r fath yn dyst wylaidd i gariad teulu at ferch a gollwyd yn rhy gynnar — gan helpu i roi etifeddiaeth barhaus i Mollie a thalu teyrnged i 190,000 o filwyr benywaidd yr ATS."

Dywedodd Judith Alfrey, Pennaeth Adfywio a Chadwraeth Cadw:

"Pa achlysur gwell na Diwrnod Rhyngwladol y Menywod i rannu stori goll menyw ifanc mor ysbrydoledig.

"Mae gennym ni bob amser ddiddordeb mewn clywed gan aelodau o'r cyhoedd ynglŷn â diddordebau personol neu gysylltiadau â'n henebion rhestredig, ac annog unrhyw un i gyflwyno hanesion pellach am Mollie Davies — neu fenywod amlwg eraill o hanes Cymru.

"Wrth wneud hynny, gallwn obeithio coffáu Ms Davies ymhellach a dathlu arwyr di-glod eraill o hanes Cymru."