Skip to main content

6 Arwres Hanesyddol, wedi’u hailddychmygu yn yr 21ain-ganrif

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Menywod, rydym wedi rhyddhau llyfr ffeministaidd newydd sbon i blant — Menywod Mentrus Cymru

Dyma gipolwg ar chwech o’r menywod sydd wedi’u cynnwys…

   1. Santes Gwenffrewi

Pwy oedd hi? – AD 650 (yn fras)

Merch fonheddig a anwyd yn Sir y Fflint oedd Santes Gwenffrewi, a dewisodd roi’i bywyd yn llwyr i’r eglwys. Oherwydd ei chariad at ei ffydd, gwrthododd gynnig y Tywysog Caradog haerllug i’w phriodi, felly cafodd ei lladd. Ond, nid dyna ddiwedd y stori. Mae sôn bod ffynnon wyrthiol oedd yn gallu gwella pob clwyf a haint wedi tarddu ble cwympodd hi. Erbyn hyn mae pobl yn mynd ar bererindod i’r lle, a elwir yn Gapel a Ffynnon Sanctaidd Gwenffrewi.

Menywod Mentrus Cymru - Santes Gwenffrewi

Pwy allai hi fod heddiw?

Dyma Gwenffrewi, meddyg sy’n llawn cydymdeimlad sy’n gweithio’n ddiflino i wella’i chleifion. Pan fydd ei hamserlen brysur yn rhoi cyfle iddi, bydd Gwenffrewi’n rhoi amser i ddod i adnabod ei chleifion ar lefel bersonol. Mae pawb sy’n derbyn gofal ganddi’n sylwi ei bod hi’n llawn cydymdeimlad a daioni.

Darganfyddwch fwy amdani yn: Cysegrfa Ffynnon Gwenffrewi

 

  1. Branwen ferch Llŷr

Pwy oedd hi?

Cymeriad chwedlonol o’r Mabinogi, straeon Cymraeg unigryw a ysgrifennwyd yn yr Oesoedd Canol, oedd Branwen. Mae’i stori’n llawn gobaith a thorcalon. Ar ôl iddi orfod priodi Matholwch er lles y wlad, treuliodd Branwen flynyddoedd dan glo yn Iwerddon, oherwydd troseddau’i hanner brawd, Efnisien. Bu’n rhaid iddi weithio’n galed iawn, a byddai’n cael ei tharo’n aml, ond roedd ganddi un ffrind, sef aderyn bach. Dysgodd Branwen i’r drudwy adnabod ei brawd, Bendigeidfran, ac anfonodd hi’r aderyn i Harlech gyda llythyr yn gofyn am help.

Women of Wales - Branwen

Pwy allai hi fod heddiw?

Dyma Branwen, ecolegydd ifanc sy’n frwd o blaid gwarchod anifeiliaid a’r amgylchedd. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn adar, a’i breuddwyd yw agor gwarchodfa’i hun yn y dyfodol. Y tu allan i oriau gwaith, bydd Branwen yn mynd i gerdded a chrwydro mynyddoedd Eryri gyda’i theulu.

Darganfyddwch fwy amdani yn: Castell Harlech

 

  1. Y Dywysoges Nest 

Pwy oedd hi? 11eg – 12fed-ganrif (yn fras)

Roedd Nest ferch Rhys yn dywysoges oedd yn enwog am fod yn hardd iawn, ac roedd sawl dyn yn ymladd i ennill ei sylw. Roedd ganddi gymaint o edmygwyr nes bod ei gŵr eiddigeddus wedi adeiladu castell ysblennydd yng Nghilgerran i’w gwarchod. Ond yn anffodus, cafodd Nest druan ei herwgipio o’r union gadarnle oedd wedi’i gynllunio i’w chadw’n ddiogel. Fe wnaeth yr herwgipio achosi terfysg ymhlith pobl Cymru, a gwrthdaro yn erbyn y Normaniaid, gan achosi i Nest gael y llysenw ‘Helen Cymru’ – ar ôl Helen o Gaerdroea, wnaeth ddioddef profiad tebyg.

Menywod Mentrus Cymru - Y Dywysoges Nest

Pwy allai hi fod heddiw?

Dyma Nest, sy’n teithio’r byd gyda’i sach gefn, ac sy’n gwrthod cael ei chaethiwo. Mae’i hysbryd crwydrol yn mynd â hi o gyfandir i gyfandir, gan ei harwain i’r llwybrau cul bob cyfle gaiff hi. Fyddwch chi ddim yn dod o hyd i Nest yn gorwedd wrth ochr pwll mewn gwesty pum seren. Yn hytrach, bydd hi yn y farchnad fwyd leol, yn blasu danteithion lleol ac yn dysgu ieithoedd newydd.

Darganfyddwch fwy amdani yn: Castell Cilgerran

 

  1. Santes Elen

Pwy oedd hi?

Mae stori chwedlonol Santes Elen yn cael ei adrodd yn rhannol yn stori ‘Breuddwyd Macsen Wledig’. Yno, mae’n disgrifio sut y bu iddi gwrdd â’i darpar ŵr, Ymerawdwr Rhufain, Magnus Maximus – yng Nghaer Rufeinig Segontium. Yn ôl yr hanes, roedd y fenyw gryf a dirgel hon wedi gwneud llawer yn ystod ei bywyd, gan gynnwys sefydlu’r eglwys yng Nghymru, arwain byddinoedd ac adeiladu heolydd. Oherwydd iddi adeiladu cymaint o heolydd, cafodd y llysenw ‘Elen y Ffyrdd’.

Menywod Mentrus Cymru - Santes Elen

Pwy allai hi fod heddiw?

Dyma Elen, adeiladwraig grefftus a phrofiadol iawn, o ogledd Cymru. Mae ei ffordd amyneddgar ond di-ffws, a’i gwybodaeth arbenigol yn y maes, yn ei gwneud hi’n arweinydd tîm rhagorol sydd wastad yn barod i fynd yr ail filltir. Yn ei hamser hamdden, bydd Elen yn teithio i weld ei chariad sy’n byw yn yr Eidal – gwleidydd yw e, a gwnaeth y ddau gyfarfod yng Nghaernarfon.

Darganfyddwch fwy amdani yn: Caer Rufeinig Segontium

 

  1. Siwan, Larlles Cymru

Pwy oedd hi? 12fed – 13eg-ganrif (yn fras)

Roedd Siwan, oedd hefyd yn cael ei hadnabod gan ei henw Saesneg ‘Joan’, yn cynnal trafodaethau rhwng ei gŵr, Llywelyn Fawr, a’i thad, y Brenin John o Loegr. Ei gwaith hi achubodd diroedd yng ngogledd Cymru rhag cael ei oresgyn sawl tro, ac roedd parch mawr i’w barn – nid yn unig gan ei gŵr ond gan arweinwyr eraill o bwys hefyd. Enghraifft o’i dawn oedd ei llwyddiant wrth ofyn am ryddhau pum dyn o Gymru oedd yn gaeth gan Frenin Lloegr.

Menywod Mentrus Cymru - Siwan

Pwy allai hi fod heddiw?

Dyma Siwan, gwleidydd yng Nghymru. Mae’i gwybodaeth ymarferol a’i chariad dros faterion am Gymru wedi’i gwneud hi’n boblogaidd ymysg aelodau pleidiau eraill yn ogystal â gwleidyddion o bob cwr o’r byd, sy’n golygu ei bod hi’n gallu cael bargen ragorol i’w gwlad bob amser. Pan na fydd hi’n mynychu cyfarfodydd yn y Senedd, bydd Siwan yn aml yn ymweld â gwledydd eraill ar faterion swyddogol, neu bydd hi allan yn y gymuned, yn adeiladu perthynas â’r bobl y mae hi’n eu gwasanaethu.

Darganfyddwch fwy amdani yn: Castell Biwmares

 

  1. Gwenllian

Pwy oedd hi? – 11eg – 12fed Ganrif (yn fras)

Tywysoges ddewr o ymladdwraig o Gymru oedd Gwenllïan, a aeth ati i amddiffyn teyrnas Deheubarth yn ystod cyfnod cythryblus. Pan oedd ei gŵr i ffwrdd, roedd Gwenllïan yn benderfynol o weithredu yn erbyn y Normaniaid. Roedd ei doethineb a’i natur benderfynol yn ddigon i’w galluogi i arwain byddin mewn brwydr ger Castell Cydweli. Er na lwyddodd hi i ennill, fe wnaeth ei hymdrechion ysbrydoli’r genedl am genedlaethau i ddod.

Menywod Mentrus Cymru - Gwenllian

Pwy allai hi fod heddiw?

Dyma Gwenllian, ymgyrchwraig danbaid dros fenywod yng Nghydweli, Cymru a thu hwnt. Mae hi’n benderfynol iawn, ac mae hi fel arfer ar flaen y gad mewn protest neu ddadl mewn prifysgol. Bydd pobl yn cwestiynu’i barn gref yn aml, ond dyw hi ddim yn gadael i hynny ei dal hi’n ôl rhag arwain y ffordd dros gydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Darganfyddwch fwy amdani yn: Castell Cydweli

 

Mae’r darnau uchod yn dod o lyfr Cadw Menywod Mentrus Cymru sydd ar gael nawr i’w archebu am £2.95 yn unig, ar lein ac yn rhai o siopau anrheg Cadw.

Wedi cael eich ysbrydoli? Archebwch eich copi heddiw: yn: Siop ar-lein Cadw