Skip to main content

Mae gan Bobl Dduon yng Nghymru hanes sy'n mynd yn ôl o leiaf 2000 o flynyddoedd

Rhan o'r hanes hwnnw yw’r cysylltiadau Cymreig â'r fasnach gaethweision ac imperialaeth. Mae yna bethau sy'n ein hatgoffa o hyn, sef henebion, enwau strydoedd ac adeiladau sy’n anrhydeddu pobl y mae eu gweithredoedd yn cael eu cydnabod fel troseddau yn erbyn dynoliaeth erbyn hyn. Ond nid gorthrwm a darostyngiad yn unig yw hanes Pobl Dduon. Ceir enghreifftiau niferus o gyfraniad Pobl Dduon i fywyd a diwylliant Cymru sydd prin yn cael eu coffáu gan henebion, yn ein hamgylchedd adeiledig neu mewn unrhyw ffurf barhaol.  

Ym mis Gorffennaf 2020 penodwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen gan y Prif Weinidog, dan arweiniad Gaynor Legall, i archwilio henebion cyhoeddus, enwau strydoedd ac adeiladau yng Nghymru gyda'r diben o ddeall ble, pam a faint sy'n gysylltiedig â chaethwasiaeth a'r Ymerodraeth Brydeinig yn Affrica ac India'r Gorllewin. Gofynnwyd hefyd iddo nodi ac ymchwilio i ffigurau hanesyddol o dreftadaeth Pobl Dduon yng Nghymru, a allai fod wedi cael eu coffáu neu beidio am eu cyflawniadau.

Cyhoeddwyd canfyddiadau'r grŵp yn Y Fasnach mewn Caethweision a'r Ymerodraeth Brydeinig: Archwiliad o Goffáu yng Nghymru (Tachwedd 2020 ac fe'i diwygiwyd ym mis Rhagfyr 2021).

Mae'r archwiliad yn cynnwys tablau sy'n nodi 201 o bobl a gymerodd ran yn y fasnach gaethwasiaeth Affricanaidd, pobl a oedd yn berchen ar blanhigfeydd neu fwyngloddiau yr oedd y caethweision yn gweithio ynddynt neu'n elwa'n uniongyrchol ohonynt, pobl a wrthwynebodd ddiddymu'r fasnach gaethwasiaeth neu gaethwasiaeth, a phobl a gyhuddwyd o droseddau yn erbyn Pobl Dduon, yn enwedig yn nhrefedigaethau Affrica, ynghyd â gwybodaeth fywgraffyddol a thrafodaeth fer ar euogrwydd.

Daeth o hyd i 56 o henebion, 93 o adeiladau a lleoedd cyhoeddus, a 440 o enwau strydoedd a oedd yn gysylltiedig â nhw. Mae'r rhestr o henebion yn nodi'r unigolyn a gaiff ei goffáu, ac yn rhoi disgrifiad byr o'r heneb a'i hanes. O ran adeiladau cyhoeddus a lleoedd a strydoedd, mae'r archwiliad yn rhoi gwybodaeth am y math a’r lleoliad ac yn crynhoi'r dystiolaeth ynglŷn â’r cysylltiad – gan gadarnhau weithiau nad oes dim.

Mae'r agwedd fwy cadarnhaol yr archwiliad yn nodi 41 o bobl sy'n hanesyddol arwyddocaol o dreftadaeth Pobl Dduon yng Nghymru, ac y mae tri ohonynt yn cael eu coffáu yma eisoes, a'r rhai eraill yn rhai y gellid eu coffáu yn y dyfodol.

Diben yr archwiliad oedd casglu tystiolaeth a chanfod gwybodaeth: Ni fwriedir iddo fod yn rhestr o gerfluniau i'w symud o’u lle neu o enwau i'w newid, ond fel y gellir cael arfarniad gonest o'r hyn rydym wedi'i etifeddu, ac i'n helpu i greu darlun cytbwys o'r gorffennol.