Cawr cwsg de Cymru yn dihuno: cyflwyno cynlluniau ar gyfer Castell Caerffili
Mae Cadw heddiw [14 Rhagfyr 2021] wedi cyflwyno’r cynlluniau llawn ar gyfer gwaith gwella Castell Caerffili, a fydd yn golygu bod yr heneb ganoloesol yn elwa ar waith cadwraeth, adnewyddu ac adeiladu helaeth.
Gyda manylion y prosiect wedi’u cyhoeddi gyntaf ym mis Mehefin 2021, nod y cynlluniau gwerth £5m yw cadarnhau statws y Castell mwyaf yng Nghymru fel atyniad treftadaeth o’r radd flaenaf erbyn 2023 — gan groesawu ymwelwyr o bob rhan o’r wlad a thu hwnt.
Mae cyflwyno’r cynlluniau yn nodi dechrau’r rhaglen uchelgeisiol o waith a fydd yn dechrau’r mis hwn, gyda gwaith cadwraeth Porthdy Mewnol y Dwyrain.
Yng ngwanwyn 2022, bydd gwaith datblygu a gwella pellach yn dechrau, gan gynnwys y gwaith o adeiladu canolfan ymwelwyr newydd — yn ogystal â gwelliannau i fynediad y safle, dehongliad, ac adnewyddu’r Neuadd Fawr ac ardal Fflatiau’r Iarll.
Dywedodd Gwilym Hughes, Pennaeth Cadw:
“Rydyn ni wrth ein bodd yn cyflwyno’r cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Castell Caerffili, ac rydyn ni’n hyderus y byddan nhw’n trawsnewid profiad ymwelwyr ar y safle.
“Er bod Castell Caerffili yn heneb o fri rhyngwladol, rydyn ni’n cydnabod ei fod yn ased lleol yn bennaf oll. Gobeithiwn y bydd pobl leol yn cefnogi ein cynlluniau i fuddsoddi yn y Castell — a fydd yn rhoi hwb i’r economi leol.”
Fel heneb gofrestredig, mae Castell Caerffili yn ddarostyngedig i’r lefel uchaf o ddiogelwch treftadaeth. Drwy gydol y gwaith cadwraeth hanfodol hwn, mae Cadw wedi ymrwymo i sicrhau bod y Castell, sydd wedi sefyll ers 1268, yn cael ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac yn cael ei gadw gyda’r gofal mwyaf.
Dywedodd y Cynghorydd Philippa Marsden, Arweinydd Cyngor Caerffili:
“Rydyn ni’n falch o fod yn gweithio gyda Cadw ar waith gwella’r Castell, ac edrychwn ymlaen at weld y gwelliannau a gynigir yn y cynlluniau hyn yn cael eu gwireddu.
“Bydd y datblygiadau a gynllunnir ar gyfer yr heneb yn atgyfnerthu’r Castell ymhellach fel atyniad y mae’n rhaid ymweld ag ef yng Nghymru, gan annog mwy o bobl i ymweld â’n tref hyfryd.”
Bydd y prosiect gwella yn gweld Cadw yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Caerffili, Mace project management, Purcell Architects, Bright interpretation designers, Mann Williams Engineers, Holloway Partnership M&E, Wessex Archaeology, BSG Ecology, Austin Smith Lord Landscape architects, a John Weaver Contractors.
Gallwch weld mwy o argraffiadau gan artist a rhagor o fanylion am y cynlluniau ar wefan Cadw yma.