Skip to main content

Castell Caerffili: Caer ganoloesol fwyaf Cymru sydd â chanrifoedd o dreftadaeth a hanes wedi’u cerfio i bob carreg.

Er mwyn cynnal a gwella’r heneb, datgelwyd yn ddiweddar gynlluniau ar gyfer gwaith adeiladu, adnewyddu a datblygu a fydd yn atgyfnerthu statws Castell Caerffili fel atyniad treftadaeth o’r radd flaenaf.

Gellir rhannu’r rhaglen gyffrous hon o waith yn dri phrif gategori ac fe’u manylir isod: Gwelliannau i Gyfleusterau, Profiad Ymwelwyr, a Chadwraeth.

Caerphilly Castle - artist impression entrance

Gwelliannau i Gyfleusterau

Er mwyn croesawu ymwelwyr a gwella’r capasiti i wirfoddolwyr, bydd canolfan ymwelwyr newydd yn cael ei hadeiladu a bydd yn cynnwys caffi, gofod addysg, a swyddfeydd tîm Cadw. Bydd siop roddion bresennol y Castell hefyd yn cael trawsnewidiad, gyda’r lle’n cael ei ailosod yn llawn.

Bydd y Ganolfan Groeso newydd yn dilyn dyluniad carbon isel ac yn croesawu ffrindiau hedfanog a phryfed peillio i’w ‘tho gwyrdd’ newydd. Bydd pwmp gwres ffynhonnell aer yn cael ei gynnwys i ddarparu gwres ac oeri carbon isel; bydd blodau gwylltion brodorol yn cael eu plannu ar y tro gwyrdd i annog bioamrywiaeth, a bydd paneli PV yn cael eu dylunio a’u gosod i ddarparu elfen o ynni adnewyddadwy.

I glymu’r cyfleusterau ymwelwyr newydd hyn gyda’i gilydd, bydd ward allanol y Castell yn cael ei haildirlunio — gan sicrhau mynediad llyfn i bawb a fydd yn camu y tu mewn i gatiau’r heneb.

Caerphilly Castle - artist impression - gatehouse entrance view from inside grounds

Gan adeiladu ar welliannau i’r llwybrau a gwblhawyd yn 2020, bydd llwybrau mynediad a rampiau ychwanegol yn cael eu gosod ar draws tiroedd y castell.

Bydd mwy o ymwelwyr yn gallu mwynhau’r safle wrth i lwybrau gael eu lledu, er mwyn gwneud mynediad yn haws i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.

Bydd tair pont enwog Castell Caerffili hefyd yn elwa o’r gwelliannau, gan gynnwys y brif bont fynedfa sy’n arwain i mewn i’r Castell o’r dref.  

Mae disgwyl i’r Neuadd Fawr ganoloesol gael ei thrawsnewid hefyd, a’r nod yw ail-greu’r ysblander canoloesol a gâi ei fwynhau gan hen drigolion y Castell.

Bydd y mannau hanesyddol hefyd yn destun gwaith cadwraeth helaeth, gyda gwelliannau’n cael eu gwneud i’r cyfleusterau cefn tŷ, a fydd yn ein galluogi i gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau cyffrous yn y dyfodol. 

Profiad Ymwelwyr

Mae ein buddsoddiad mwyaf erioed mewn dehongliad yn dod i Gaerffili, wrth i £1m gael ei neilltuo i ddatblygu cynllun dehongli newydd ledled y castell. 

Wrth adrodd straeon y dynion a’r menywod a alwai’r Castell yn gartref drwy gydol y canrifoedd, bydd y dehongliad newydd yn cyffroi ac yn ennyn diddordeb ymwelwyr o bob oed.

Caerphilly Castle - artist impression - bridge leading to Inner East Gatehouse entrance

Diolch i BSG Ecology, bydd gardd newydd o flodau gwylltion yn cael ei phlannu ar dir y Castell. Gan annog bioamrywiaeth, bydd yr ardd o flodau gwylltion hefyd yn darparu man gwyrdd y gall pob ymwelwyd ei fwynhau.

Cadwraeth

Bydd Porthdy Mewnol y Dwyrain yn cael to newydd, bydd ffenestri’n cael eu hatgyweirio, a bydd gwaith ailbwyntio’n cael ei gynnal i sicrhau bod yr adeilad yn gwrthsefyll dŵr. Bwriedir dechrau ar y gwaith hwn ym mis Tachwedd. Cadwch olwg am ein tîm cadwraeth ar y safle. 

Gan weithio gyda Chyngor Caerffili, Mace project management, Purcell Architects, Bright interpretation designers, Mann Williams Englineers, Holloway Partnership M&E, Wessex Archaeology, BSG Ecology, ac Austin Smith Lord landscape architects, rydym wedi penodi John Weaver yn ddiweddar fel contractwr y prosiect ac mae disgwyl iddo ddechrau eleni.

Bydd rhagor o fanylion — gan gynnwys dyddiadau ar gyfer dechrau’r gwaith ac unrhyw effaith y gallai’r gwaith ei chael ar brofiad ymwelwyr — yn cael eu cyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf.

Caerphilly Castle - artist impression - south east cafe area