Skip to main content
Castell Caerffili
Wedi ei gyhoeddi

Mae caer ganoloesol fwyaf Cymru ar fin cael ei thrawsnewid dros y tair blynedd nesaf wrth i waith ddechrau ar Brosiect Adfywio Castell Caerffili.

Mae’r prosiect gwerth £10m yn rhan o fuddsoddiad ehangach yn henebion hanesyddol Cymru a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn haf 2026.

Bydd y castell o’r 13eg ganrif yn elwa o welliannau helaeth i gyfleusterau, profiad ymwelwyr a chadwraeth – gan gyflwyno canolfan groeso o’r radd flaenaf, caffi newydd sbon, toiledau, ac ystafell addysg.

Mae £1m o’r buddsoddiad wedi’i ddyrannu i ddatblygu cynllun dehongli newydd – sy’n adrodd hanesion difyr pobl a fu’n adeiladu ac yn byw yn y castell ar hyd y canrifoedd.

Bydd Castell Caerffili yn parhau i fod ar agor yn ystod cyfnod cwblhau’r prosiect, heblaw am rhai ardaloedd, fel y gall ymwelwyr barhau i fwynhau treftadaeth a hanes y castell.

Dechreuodd y gwaith cychwynnol ar y cynllun adfywio yn 2021 gyda gwaith cadwraeth angenrheidiol ar Borthdy Mewnol y Dwyrain i baratoi ar gyfer Cam 1 a Cham 2 y prosiect.

Yn ystod Cam 1 bydd gwelliannau yn cael eu gwneud i ward fewnol y castell. Bydd y gwaith yn dechrau ar 7 Awst 2023 a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn mis Gorffennaf 2024. Bydd hyn yn cynnwys adnewyddu'r Neuadd Fawr ganoloesol, gosod llwybrau mynediad a rampiau i ymwelwyr, system ddehongli gynhwysfawr, ac adeiladu gardd flodau gwyllt.

Castell Caerffili / Caerphilly Castle Great Hall

Bydd gwaith hefyd yn cael ei wneud i gadw ac agor mynediad i ymwelwyr i’r giât ddŵr canoloesol, a oedd unwaith yn fynediad o ymyl y dŵr i’r Neuadd Fawr ganoloesol. Nid yw'r fynedfa, gyda'i thramwyfa hir wedi'i defnyddio ers y canol oesoedd.

Yn ystod y cam hwn o’r prosiect, bydd y Neuadd Fawr, y cwrt canolog a rhai ardaloedd llawr gwaelod y ward fewnol ar gau i ymwelwyr. Bydd lloriau uwch a llwybrau’r waliau ar agor fel arfer ond bydd angen defnyddio grisiau troellog hanesyddol er mwyn eu cyrraedd. Ni fydd toiledau ymwelwyr yn hygyrch o fewn y castell ond gall ymwelwyr ddefnyddio toiledau mewn lleoliadau sy’n agos at y castell fel Llyfrgell Caerffili a Chanolfan Ymwelwyr Caerffili.

Unwaith y bydd y gwaith o adfywio’r ward fewnol wedi’i gwblhau, disgwylir i Gam 2 y prosiect ddechrau yn ystod haf 2024 yn ward allanol y castell. Bydd hyn yn cynnwys adeiladu Canolfan Groeso cynaliadwy newydd, adnewyddu siop Cadw a gosod ardal chwarae i blant.

Dywedodd Dr Kate Roberts, Prif Arolygydd Henebion ac Adeiladau Hanesyddol Cadw: “Mae Castell Caerffili yn un o dirnodau hanesyddol mwyaf trawiadol Cymru gyda gorffennol hynod ddiddorol - mae sawl brwydr a gwarchae wedi bod yno ac roedd y castell yn rhan allweddol yng nghwymp Brenin Edward.

“Ein nod yw gwarchod y lle hanesyddol unigryw hwn – y castell consentrig cyntaf yng Nghymru – a thrawsnewid y profiad i’r miloedd o ymwelwyr sy’n mwynhau’r atyniad bob blwyddyn.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda Chyngor Caerffili a rhanddeiliaid allweddol eraill wrth ddilyn strategaeth Caerffili 2035 i geisio gwneud y dref yn le deniadol i fyw, gweithio a buddsoddi ynddo, ac i wneud y castell yn un o atyniadau treftadaeth fwyaf Cymru ar gyfer y dyfodol ac er lles pawb.

Er mwyn cwblhau’r gwaith adnewyddu, mae Cadw yn gweithio mewn partneriaeth â John Weaver Contractors (Prif Gontractwr), rheolwyr prosiect Mace, Purcell Architects, dylunwyr dehongli Bright, Studio Hardie, Mann Williams Engineers, Holloway Partnership M&E, Wessex Archaeology, BSG Ecology ac Austin Smith Lord Landscape Architects.

Bydd Castell Caerffili yn parhau i fod ar agor yn ystod cyfnod y gwaith adnewyddu, a bydd ymwelwyr yn derbyn canllaw am ddim i gyfoethogi eu profiad. Mae tocynnau mynediad ar gael i'w prynu ar-lein neu yn y castell.

Am ragor o wybodaeth am y prosiect, ac i ddilyn y stori, ewch i

https://cadw.llyw.cymru/ymweld/lleoedd-i-ymweld/castell-caerffili